Amdanom ni

Croeso i wefan Ymchwil ac Arloesi y DU

Corff newydd yw Ymchwil ac Arloesi y DU sy’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a’r llywodraeth i greu’r amgylchedd gorau posibl i ymchwil ac arloesi ffynnu ynddo. Ein nod yw sicrhau bod pob un o’n amrywiol elfennau yn cyfrannu i’r eithaf, fel cyrff unigol a gyda’i gilydd.  Rydym yn cydweithio â’n partneriaid niferus i ddod â budd i bawb ar ffurf gwybodaeth, talent a syniadau.

Gan weithredu ledled y DU gyda chyllideb gyfun o dros £7.9 biliwn yn 2021/22, mae Ymchwil ac Arloesi y DU yn dod â’r saith Cyngor Ymchwil, Innovate UK a Research England at ei gilydd.

Rydym yn sefydliad annibynnol gyda llais cryf ym maes ymchwil ac arloesi, yng nghyswllt y llywodraeth ac ar lefel ryngwladol, sy’n cael ei gefnogi a’i herio gan fwrdd a chadeirydd annibynnol. Rydym yn cael ein hariannu’n bennaf drwy’r Gyllideb Gwyddoniaeth gan yr Adran gyfer Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT).

Ein cenhadaethyw bod yn bartner y mae pobl yn ymddiried ynddo a sicrhau bod ymchwil ac arloesi yn parhau i ffynnu yn y DU. Byddwn yn cefnogi ac yn helpu i gysylltu’r ymchwilwyr a’r arloeswyr gorau â chwsmeriaid, defnyddwyr a’r cyhoedd. Byddwn yn buddsoddi pob punt o arian y trethdalwyr yn ddoeth mewn ffordd sy’n sicrhau’r effaith fwyaf i’n dinasyddion, yn y DU a ledled y byd.

Byddwn yn cael ein mesur yn ôl yr effaith rydym yn ei chael, a bydd tair elfen i’r effaith honno, sef:

  • Byddwn yn gwthio’r ffiniau ym maes gwybodaeth ddynol a dealltwriaeth.
  • Byddwn yn sicrhau effaith economaidd a ffyniant cymdeithasol.
  • Byddwn yn creu effaith gymdeithasol a diwylliannol drwy helpu i gyfoethogi ein cymdeithas a phobl eraill a’u gwneud yn fwy iach, cydnerth a chynaliadwy.

Os oes gennych chi gwestiwn i’w ofyn i Ymchwil ac Arloesi y DU, ac yr hoffech ohebu â ni yn Gymraeg, defnyddiwch cymraeg@ukri.org neu, fel arall, defnyddiwch ein hadran Cysylltu â Ni.

Last updated: 27 March 2023

This is the website for UKRI: our seven research councils, Research England and Innovate UK. Let us know if you have feedback or would like to help improve our online products and services.