Strategy

Strategaeth UKRI 2026 i 2031

From:
UKRI
Published:

Rhagair

Un o asedau mwyaf y Deyrnas Unedig yw ansawdd ein gwaith ymchwilio ac arloesi. Mae’n effeithio ar fywydau a bywoliaeth pob un ohonom. Mae gan UK Research and Innovation (UKRI) le canolog yn hyn, gan sbarduno cynnydd ar draws y Deyrnas Unedig. Dyna pam rwy’n meddwl ei fod yn un o sefydliadau pwysicaf y wlad.

Bob blwyddyn, cawn dros £9 biliwn o arian cyhoeddus i’w fuddsoddi mewn ymchwilio ac arloesi i esgor ar ganlyniadau i’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig. Fel y buddsoddwr cenedlaethol mwyaf mewn ymchwilio ac arloesi yn Ewrop, rydym yn cefnogi popeth o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, i fioleg a gwyddorau bywyd, i ffiseg a pheirianneg. Mae ein partneriaethau â phrifysgolion, sefydliadau, labordai cenedlaethol a chwmnïau arloesol yn siapio dyfodol y Deyrnas Unedig.

Mae ein cenhadaeth yn syml ond yn bwerus ac yn uchelgeisiol: datblygu gwybodaeth, gwella bywydau a sbarduno twf. Mae pob elfen yn cyfrif. Mae economi sy’n cael ei sbarduno gan wybodaeth yn ffynnu ar ymchwil sy’n cael ei sbarduno gan chwilfrydedd, gan danio syniadau sy’n esgor ar gynhyrchion a gwasanaethau arloesol sydd â’r pŵer i newid bywydau.

Bydd UKRI ar ei orau pan fydd y rhannau hyn yn gweithio gyda’i gilydd. Oherwydd hyd a lled ein hymchwil, gallwn fraenaru’r ffordd ar gyfer dyfodol pedair gwlad y Deyrnas Unedig: gan wella sylfaen ddoniau a sgiliau’r Deyrnas Unedig, sbarduno datblygiadau arloesol, a gwella ein hiechyd, ein diogelwch a’n hamgylchedd. Gallwn droi cwmnïau arloesol heddiw yn gewri diwydiant y dyfodol, gan greu swyddi o safon a phweru twf economaidd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Sefydlwyd UKRI i ddod â chydlyniad strategol i’r system ymchwilio ac arloesi genedlaethol, gan alluogi ymchwil amlddisgyblaethol ar raddfa fawr, ac i sicrhau bod ymchwilio ac arloesi yn esgor ar ffyniant i gyhoedd y Deyrnas Unedig. Ar ôl gosod y sylfeini ar gyfer UKRI unedig gyda chwmpas a chylch gwaith eithriadol, byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Mae UKRI yn newid er mwyn gwireddu’r potensial hwn. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn dangos llinell glir rhwng ein cenhadaeth a’n harian, rhwng ein strategaeth a’n gwariant. Bydd bron hanner ein cyllideb yn cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd. Mae ein cynlluniau dilyffethair yn caniatáu i ymchwilwyr fynd ar drywydd syniadau trawsnewidiol mewn unrhyw ddisgyblaeth, ac mae ein cyllid grant bloc ar gyfer prifysgolion yn Lloegr yn rhoi’r hyblygrwydd i archwilio syniadau newydd a chynnal sefydlogrwydd tymor hwy ar yr un pryd.

Bydd hanner arall ein cyllideb yn canolbwyntio ar sectorau sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n esgor ar ganlyniadau’n gyflymach, gan gynorthwyo cwmnïau i sefydlu, tyfu ac, yn y pen draw, aros yn y Deyrnas Unedig. Yma, byddwn yn fwy dethol, gan wneud llai o bethau, yn well.

Yn y cyfamser, rydym yn symleiddio ein penderfyniadau ac yn hoelio ein sylw fwy ar sicrhau canlyniadau. Mae angen i ni wella ein partneriaethau gyda buddsoddwyr a’n partneriaid cyflawni, gartref a thramor, o bartneriaethau trafodaethol i bartneriaethau strategol. Mae angen i ni fod yn gliriach am ein cynlluniau tymor hir a sut mae ein hymyriadau’n ffitio gyda’i gilydd, gan leihau’r risgiau i’n partneriaid.

Mae arwain UKRI yn fraint enfawr. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig, ein buddsoddwyr, yn dibynnu arnom ni i gyflawni. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud yn union hynny.

Yr Athro Syr Ian Chapman, Prif Weithredwr UKRI

Cipolwg ar UKRI: strwythur y sefydliad

Ffeithlun yn dangos sut mae cynghorau UKRI a swyddogaethau trawsbynciol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein cenhadaeth i ddatblygu gwybodaeth, gwella bywydau, a sbarduno twf.

Cyflwyniad

Ein heriau strategol

Mae’r byd yn newid, ar ras.

Mae llywodraethau ledled y byd yn chwilio am ffyrdd o ysgogi twf, helpu cwmnïau arloesol i dyfu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol, a chodi safonau byw. Mae newidiadau technolegol yn creu marchnadoedd newydd ac yn sbarduno datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau. Mae grymoedd geowleidyddol yn arwain at risgiau diogelwch ac ansicrwydd o’r newydd.

Mae galw cynyddol, sy’n cael ei achosi’n rhannol gan gymdeithas sy’n heneiddio, yn rhoi pwysau o’r newydd ar systemau iechyd a gofal, ac yn cyfyngu ar fuddsoddiadau cyhoeddus ehangach.

Mae cymdeithasau hefyd yn ymgodymu â heriau ehangach, o ddatgarboneiddio systemau ynni i ganfod ffyrdd newydd o gadw dinasyddion yn ddiogel yn eu cymunedau.

Mae’r heriau hyn yn rhai go iawn. Yn y Deyrnas Unedig, mae twf hirdymor wedi cwympo i 1.5% dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae hyd oes ddisgwyliedig iach pobl wedi stopio cynyddu. Rydym yn wynebu bygythiadau newydd i’n diogelwch oddi wrth weithredwyr gwladwriaethol ac anwladwriaethol. Ac er gwaethaf y cynnydd a wnaed i ddatgarboneiddio ein systemau ynni, mae gwres a thrafnidiaeth yn dal yn ddrud ac yn rhyddhau carbon.

Ni all y system ymchwilio ac arloesi ddatrys yr holl heriau cymdeithasol hyn ar ei phen ei hun, ond gall chwarae rhan ganolog i roi sylw iddynt. Er ein bod yn cydnabod na all ymchwilio ac arloesi bob amser wrthbwyso’r ffactorau ehangach sy’n ffrwyno cynhyrchiant y Deyrnas Unedig, ac na all y Deyrnas Unedig fynd ar drywydd pob maes ymchwil ac arloesi byd-eang ar raddfa fawr, dengys y dystiolaeth y gall fod yn sbardun allweddol i lwyddiant economaidd. Dro ar ôl tro, mae ymchwilio ac arloesi wedi rhoi inni atebion newydd, cost-effeithiol i heriau o ran diogelwch, iechyd a’r amgylchedd, gan wella bywydau a bywoliaethau.

Cryfder sylfaen ymchwil y Deyrnas Unedig ydy un o’n prif asedau cenedlaethol. , Mae buddsoddiadau ymchwilio ac arloesi blaenorol a wnaed gan UKRI a’i gyrff partner, mewn rhai achosion, yn dyddio’n ôl dros ddegawd, yn ein helpu ni heddiw, a hefyd yn rhoi inni atebion ar gyfer y dyfodol. Bydd y dewisiadau a wnawn dros y degawd nesaf yn hollbwysig i siapio trywydd y wlad i’r dyfodol.

Blaenoriaethau strategol UKRI mewn ymateb

Rhaid i UKRI fod wrth wraidd yr ymateb hwn.

Nyni sydd i gyfrif am ddwy ran o bump o’r holl arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn ymchwilio ac arloesi ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Rydym yn un o’r ychydig fuddsoddwyr mewn ymchwil cyhoeddus yn y byd i gwmpasu pob disgyblaeth ymchwil gyda buddsoddiadau sy’n cwmpasu ymchwil sy’n cael ei sbarduno gan chwilfrydedd drwodd i ehangu cwmnïau. Mae ein buddsoddiadau’n cael effaith yn y byd go iawn, gan esgor ar fanteision yn lleol ac yn genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig, o gymorth ar gyfer brechlyn COVID-19, dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol, a chefnogi busnesau newydd sy’n arwain ar lefel fyd-eang.

Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa unigryw i arwain o’r tu blaen. Drwy weithio gyda phartneriaid ar draws prifysgolion, canolfannau, sefydliadau, catapyltiau ac unedau, buddsoddwyr, elusennau, cwmnïau mawr a bach, a llywodraethau lleol a chenedlaethol, gallwn adeiladu ar ein hasedau cenedlaethol gwych a gwella bywydau pobl.

Mae ein strategaeth yn nodi cyfeiriad clir ar gyfer UKRI dros y pum mlynedd nesaf, gan gydnabod y bydd y cyd-destun polisi, y cyd-destun economaidd a’r cyd-destun byd-eang yn parhau i ddatblygu. Fe’i bwriedir i fod yn fframwaith cyson ar gyfer gweithredu sy’n gydnaws â blaenoriaethau’r llywodraeth, gyda digon o hyblygrwydd i ymateb i flaenoriaethau newydd ac egin gyfleoedd. Mae’n adeiladu ar ein dyraniad o’r gyllideb, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025, sy’n nodi ein dull newydd o fuddsoddi sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Drwy gyfrwng ein cenhadaeth newydd i ddatblygu gwybodaeth, gwella bywydau a sbarduno twf byddwn yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth.

Cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd

Buddsoddi ar raddfa fawr mewn ymchwil ledled y Deyrnas Unedig a arweinir gan ymgeiswyr a chyllid grant bloc ar gyfer prifysgolion Lloegr: byddwn yn sicrhau bod ymchwil yn y Deyrnas Unedig yn dal i arwain ar lefel fyd-eang, ac yn annog newydd-deb a pharodrwydd i gymryd risgiau deallusol.

Rhoi sylw i flaenoriaethau strategol y llywodraeth a chymdeithas

Byddwn yn arddel agwedd newydd at fuddsoddi drwy ein Rhaglenni Blaenoriaethau mewn meysydd fel deallusrwydd artiffisial, ynni glân a’r diwydiannau creadigol: bydd y buddsoddiadau hyn yn rhoi budd i bob rhan o’r Deyrnas Unedig, a hynny drwy gynlluniau cyd-greu â rhanbarthau, a byddant yn ystyried ym mhle y mae gan y Deyrnas Unedig y potensial i arwain ar lefel fyd-eang ym maes ymchwilio ac arloesi.

Helpu cwmnïau i ddechrau, ehangu ac aros yn y Deyrnas Unedig

Bydd cwmnïau yn y Deyrnas Unedig yn siapio dyfodol economaidd y genedl. Mae’r Deyrnas Unedig ar y brig yn Ewrop o ran gwerth cwmnïau deilliadol fesul gwlad, ac eto, dim ond ychydig sy’n tyfu’n gwmnïau mwy ac mae llai fyth yn tyfu’n gwmnïau enfawr. Rydyn ni eisiau newid hynny. Bydd adnoddau’n cael eu hanelu at fusnesau unigol a hynny mewn sectorau ehangach sydd â’r potensial mwyaf i dyfu.

Nid blaenoriaethau annibynnol yw’r rhain. Bwriedir iddynt weithio gyda’i gilydd fel system gysylltiedig, gan atgyfnerthu ei gilydd. Mae ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd yn megino’r wybodaeth sy’n trosi’n effaith yn y byd go iawn. Maent yn creu’r gwerth unigryw sy’n sbarduno effaith economaidd drwy gwmnïau sefydledig, ac yn pweru cwmnïau arloesol wrth iddynt dyfu. Bydd syniadau sy’n deillio o’n buddsoddiad mewn ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd yn llywio ac yn cryfhau’r Rhaglenni Blaenoriaethau sy’n rhoi sylw i heriau cenedlaethol. Bydd canlyniadau llwyddiannus yn eu tro yn cael eu trosi’n gwmnïau mawr eu potensial sy’n cael effaith economaidd a chymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r llwybrau sy’n arwain o ddarganfod i gymhwyso, ac ymlaen eto i greu cwmni, yn afreolaidd, a byddant yn edrych yn wahanol i bawb. Ond mae gan UKRI y gallu a’r arbenigedd i gefnogi ymchwilwyr ac arloeswyr ar y siwrnai bwysig hon.

Byddwn bob amser yn gwneud penderfyniadau buddsoddi sy’n cefnogi rhagoriaeth. Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi ffactorau ychwanegol gwahanol ar draws y tair blaenoriaeth sy’n rhan o’n portffolio. O fewn ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd, byddwn yn chwilio am newydd-deb a chymryd risgiau deallusol. Bydd ein buddsoddiad ym mlaenoriaethau’r llywodraeth a’r gymdeithas yn gwerthuso’r effaith gymdeithasol, y manteision lleol, a’r gallu i greu partneriaethau a chyflawni’n gyflym. Bydd ein cymorth i gwmnïau yn dewis sectorau’r farchnad sydd â’r potensial mwyaf i dyfu, lle gall y Deyrnas Unedig sicrhau’r elw economaidd mwyaf a lle gall cyfranogiad UKRI greu gwerth o’r newydd.

Diagram yn dangos pa ffactorau y bydd UKRI yn eu gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau buddsoddi. Ar gyfer buddsoddiadau mewn ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd, bydd UKRI yn gwerthfawrogi newydd-deb a chymryd risgiau deallusol. Ar gyfer buddsoddiadau ym mlaenoriaethau strategol y llywodraeth a’r gymdeithas, bydd yn gwerthfawrogi lleoliad a chyflawni’n gyflym. Ar gyfer buddsoddiadau mewn helpu cwmnïau i ddechrau, ehangu ac aros yn y DU, bydd yn gwerthfawrogi lleoliad a’r potensial ar gyfer twf economaidd. Gwerthfawrogir rhagoriaeth ar draws y tair blaenoriaeth.

Ni allwn wireddu uchelgeisiau ein strategaeth heb fuddsoddi yn sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi a diwygio ein sefydliad. Dros y pum mlynedd nesaf, rhaid i ni hefyd wneud y canlynol.

Cryfhau sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi

Byddwn yn dal i gefnogi seilwaith cenedlaethol hanfodol (gan gynnwys ein canolfannau, ein sefydliadau a’n Catapyltiau a’n hunedau arbenigol sy’n arwain ar lefel fyd-eang), ein doniau sy’n arwain ar lefel fyd-eang a’n partneriaethau rhyngwladol. Mae hyn yn cyflawni ein rôl unigryw fel yr unig gorff cyhoeddus sy’n buddsoddi ac yn cydlynu pobl a gweithgareddau ar draws y system ymchwilio ac arloesi gyfan.

Diwygio ein sefydliad

Byddwn yn dod yn fwy ystwyth ac yn mabwysiadu technoleg newydd i wella tryloywder, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd UKRI. Byddwn yn cyflymu’r trefniadau prosesu grantiau i ymgeiswyr, a byddwn yn mesur cynnydd drwy un cynllun cyflawni ar gyfer UKRI, a gyhoeddir yn flynyddol.

Byddwn yn buddsoddi’n drwm mewn prifysgolion ac mewn sefydliadau ymchwil cenedlaethol, gan gynnwys ein canolfannau arbenigol, ein sefydliadau a’n Catapyltiau a’n hunedau, byddwn yn dal i fuddsoddi’n drwm mewn prifysgolion, gan gynnal sylfaen sefydliadol sy’n meithrin ehangder ac amrywiaeth yn fwriadol. Byddwn yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn aros ar flaen y gad ym maes ymchwil cydweithredol, amlddisgyblaethol.

Yn ogystal ag yn stiwardio cyllid cyhoeddus, byddwn hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatgloi buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn system ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig. Byddwn yn cynyddu ein heffaith gyffredinol, gan adeiladu ar yr eiddo deallusol, y data, y doniau a’r asedau y mae UKRI yn helpu i’w creu.

Bydd y canlyniad yn adeiladu ar wyth mlynedd o gynnydd ers ein ffurfio yn 2018 ac yn galluogi UKRI i fanteisio’n llawn ar ei safle unigryw yn yr ecosystem ymchwilio ac arloesi.

Diagram yn dangos tair blaenoriaeth strategol UKRI. Y rhain yw: cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil sy’n cael ei harwain gan chwilfrydedd, mynd i’r afael â blaenoriaethau strategol y llywodraeth a’r gymdeithas, a helpu cwmnïau i ddechrau, ehangu ac aros yn y DU. Bydd Rhaglenni Blaenoriaeth newydd UKRI yn gweithredu ar draws blaenoriaethau strategol y llywodraeth a’r gymdeithas, ac yn helpu cwmnïau i ddechrau, ehangu ac aros yn y DU. Mae’r diagram yn dangos y tair blaenoriaeth strategol sydd wedi’u galluogi drwy gryfhau sylfeini’r system ymchwil ac arloesi a diwygio trefn y system.

Lleoliad

Mae parhau i fuddsoddi mewn cryfderau ymchwilio ac arloesi lleol ar draws y pedair gwlad yn hanfodol i’n helpu i gyflawni ein strategaeth. Rhwng 2021 i 2022 a 2024 i 2025, cynyddodd ein buddsoddiad y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf 30% o’i gymharu â 12% yn Ne-ddwyrain Lloegr Fwyaf.

O 2031 ymlaen, bydd Meiri awdurdodau strategol maerol sefydledig yn gallu penderfynu sut a ble i dargedu buddsoddiadau ymchwilio ac arloesi rhanbarthol wrth i ni ddatganoli ein Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol gwerth £500 miliwn.

1: Cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd

Ymchwil darganfod yw sylfeini gwybodaeth newydd. Mae’n dyfnhau ein dealltwriaeth o’r bydysawd a’n lle ninnau ynddo. Hefyd, dyma lle mae darganfyddiadau trawsnewidiol a syniadau newydd yn fwyaf tebygol o godi; y darganfyddiadau sy’n sbarduno datblygiadau arloesol ac sydd, yn y pen draw, yn newid bywydau a bywoliaethau. Mae ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd, lle mae ymchwilwyr yn llunio’r agenda, yn sicrhau y gellir archwilio’r syniadau disgleiriaf.

Mae ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd ac ymchwil darganfod hefyd yn cyflymu ymchwil gymhwysol. Maent yn gefnogol i fabwysiadu technolegau newydd, yn hybu cystadleurwydd economaidd ac yn cryfhau gwydnwch y Deyrnas Unedig. Ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang ac amgylcheddol cynyddol, maent yn ein galluogi i ymateb i’r heriau presennol ac i heriau annisgwyl.

Fe wnaethom gefnogi dros
53,000
o unigolion rhwng
2018-19 a 2024-25

Dyma ffynhonnell cryfder gweithgaredd ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig. Dyna pam eu bod yn dal i fod yn brif flaenoriaeth i UKRI.

Ni sy’n rhoi’r mwyaf o gyllid ar gyfer ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd yn y Deyrnas Unedig, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi a chynnal buddsoddiad, gan dyfu fel y mae’r economi’n caniatáu.

Fe wnaethom gefnogi bron
11,000
o sefydliadau rhwng
2018-19 a 2024-25

Pobl, sgiliau a galluoedd hanfodol fel seilwaith yw sylfeini ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd ac ymchwil darganfod. Heb fuddsoddi yn y meysydd hyn, ni fyddem wedi gwneud darganfyddiadau trawsnewidiol. Mae ein hymrwymiad i ‘Gryfhau sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi’ yn datgan sut y byddwn yn dal i gefnogi ymchwilwyr ac arloeswyr, gan gynnwys hyfforddi cenedlaethau’r dyfodol, i sicrhau bod gan syniadau newydd ar draws pob disgyblaeth le i ffynnu. Yn hollbwysig, byddwn yn rhoi i ymchwilwyr y rhyddid i gymryd risgiau ac yn eu grymuso i osod yr agenda ymchwil.

Gwyddom efallai na fydd effaith prosiectau a arweinir gan ymchwilwyr yn dod i’r amlwg am ddegawdau, ond mae’r darganfyddiad sylfaenol hwn yn dal i fod yn ganolog i’n tasg o wella bywydau a bywoliaethau i’r dyfodol.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn buddsoddi £3.3 biliwn dros y pedair blynedd nesaf mewn ymchwil darganfod dan arweiniad ymgeiswyr drwy gyfrwng ein saith cyngor ymchwil, gan sicrhau iechyd disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol eang
  • yn cynnal lefelau’r Deyrnas Unedig o allbynnau ymchwil o’r ansawdd gorau yn fyd-eang ac yn cyfrannu at gynnal ei safle uchel yn fyd-eang o ran yr effaith a fesurir drwy gyfeiriadau wedi’i phwysoli yn ôl y maes
  • yn buddsoddi £8.9 biliwn mewn cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd i brifysgolion yn Lloegr dros y pedair blynedd nesaf
  • yn adolygu effeithiolrwydd ein cyllid grant bloc a’n mecanweithiau dyrannu yn Lloegr
  • yn cyflwyno system asesu ymchwil sy’n annog rhagoriaeth, effaith ac amgylcheddau ymchwil strategol
  • yn buddsoddi £2.3 biliwn yn y galluoedd sy’n caniatáu i ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd ffynnu
  • yn meithrin tryloywder ac ymddiriedaeth drwy hyrwyddo mynediad agored a chefnogi newid mewn arferion cyhoeddi

Effaith: Brechlyn COVID 19 Rhydychen-AstraZeneca

Bu buddsoddiad UKRI yn sail i’r gwaith o ddatblygu brechlyn COVID 19 Rhydychen-AstraZeneca a’i gyflwyno’n fyd-eang, ac amcangyfrifir ei fod wedi achub 6.3 miliwn o fywydau ledled y byd yn ystod y flwyddyn gyntaf pan gyflwynwyd y brechlyn yn fyd-eang. Dosbarthwyd dros 3 biliwn dos i dros 170 o wledydd rhwng 2021 a 2024.

Deilliodd y brechlyn o waddol sylweddol gan UKRI o ddechrau’r 2000au. Drwy gynllunio strategol gofalus, llwyddodd y Brifysgol i adeiladu ar gyllid grant UKRI ar gyfer rhaglenni brechu penodol i ddatblygu platfform brechlyn adenofeirysol ‘parod i fynd’, ChAdOx1, a grëwyd gyda’r bwriad o ymateb yn gyflym i fygythiadau newydd oddi wrth bathogenau. Golygai’r buddsoddiad hwn fod gan y tîm y platfform perffaith pan darodd COVID-19 a, gan ddefnyddio cyllid a gafwyd yn flaenorol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer coronafirysau eraill, llwyddwyd i ymateb yn gyflymach nag erioed i COVID 19.

Gweithiodd y tîm gyda phartneriaid rhyngwladol i gyflwyno treial clinigol cynhwysfawr yn gyflym, gan ddangos fod y brechlyn yn fwy na 70% yn effeithiol ar ôl dau ddos o’r brechlyn, mewn gwaith a gyhoeddwyd lai na blwyddyn ar ôl rhannu dilyniant y feirws am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hynny, cyfrannodd y Ganolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Brechlynnau’r Dyfodol, a ariennir gan UKRI, at ddatblygu’r prosesau ar gyfer y brechlynnau hyn; mae hyn yn hanfodol i sicrhau y gellid cynhyrchu brechlyn diogel ac effeithiol mewn niferoedd mawr am bris isel.

Effaith: lled-ddargludyddion yng Nghymru

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integredig (CISM) ym Mhrifysgol Abertawe wedi sefydlu’r gallu galiwm ocsid caenen denau 4 modfedd cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn fath o ddeunydd lled-ddargludyddol y genhedlaeth nesaf a all gefnogi’n fwy effeithlon y folteddau uchel, y dwyseddau pŵer a’r amleddau sydd eu hangen i’w defnyddio mewn cerbydau trydan, ffynonellau ynni adnewyddadwy, cyfathrebiadau 5G a lleihau’r galw am bŵer mewn canolfannau data deallusrwydd artiffisial.

Gwnaed y darganfyddiad gan ddefnyddio technoleg newydd a ariennir gan UKRI sy’n gallu cynhyrchu neu ‘dyfu’ yn fanwl gywir gaenen galiwm ocsid denau grisialog o ansawdd uchel ar is-haenau, a elwir yn wafferi. Bydd CISM yn awr yn dod yn ganolfan genedlaethol ar gyfer ymchwil galiwm ocsid caenen denau, a fydd ar gael i bartneriaid academaidd a diwydiannol.

Mae’r garreg filltir bwysig yn allweddol i ddatblygu dyfeisiau electronig mwy effeithlon, cryno a chost-effeithiol ac mae’n dangos galluoedd arloesi a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cynyddol y clwstwr lled-ddargludyddion datblygedig yn ne Cymru.

Mae clwstwr lled-ddargludyddion datblygedig de Cymru yn cwmpasu’r gadwyn arloesi gyfan, o ymchwil darganfod i gynhyrchion sy’n barod ar gyfer y farchnad, gyda’r dechnoleg yn cael ei defnyddio ar draws y maes gofal iechyd, cyfathrebiadau digidol, ynni glân, trafnidiaeth a diogelwch y wlad. Mae’r clwstwr wedi cynhyrchu £436 miliwn ar gyfer economi Cymru, gan greu dros 3,000 o swyddi ledled Cymru.

Diogelu a hyrwyddo cymorth ar gyfer ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd

Mae cymryd risg yn ein galluogi i ddarganfod. Drwy fuddsoddi mewn syniadau beiddgar, uchel eu risg o fewn ac ar draws meysydd sefydledig a meysydd newydd, byddwn yn sbarduno datblygiadau arloesol a thrawsnewid. Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi pobl ragorol, drwy seilwaith ymchwil arloesol a drwy brosiectau uchelgeisiol.

Mae gosod blaenoriaethau neu ganlyniadau anhyblyg yn cyfyngu ar y gallu i archwilio, felly byddwn yn gadael i’r ymchwilwyr eu hunain siapio’r agenda. Drwy gyfrwng ein cynghorau ymchwil, byddwn yn buddsoddi mwy na £3.3 biliwn i gefnogi’r syniadau gorau drwy ein galwadau agored am gyllid, gan weithredu ar draws yr ystod lawn o ddisgyblaethau. Er bod risg yn rhan annatod o’r gwaith, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid cyflawni i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n gyfrifol, gan ddefnyddio mwy o gydweithio i leihau dyblygu a sicrhau mwy o effaith. Er mwyn cyrraedd ein huchelgais o gyfeirio bron i hanner ein cyllideb tuag at ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd ac ymchwil darganfod, byddwn yn cynnwys cyfran o’n buddsoddiad yn sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi yn y cyfanswm hwn, gan adlewyrchu eu rôl hanfodol i gefnogi darganfyddiadau.

Yn bwysig, byddwn yn ymgysylltu â’r sylfaen ymchwilio ac arloesi ac yn gweithio gyda hi i adnabod a meithrin meysydd newydd o ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd a fydd yn cynnal safle byd-eang y Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes datblygu gwybodaeth.

Bydd ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd yn cael ei gefnogi ymhellach drwy grantiau bloc ymchwil strategol rheolaidd ar gyfer sefydliadau addysg uwch yn Lloegr, fel y nodir yn yr adran nesaf. Mae’r math hwn o gyllid yn hanfodol i alluogi ymchwilwyr i archwilio syniadau ymchwil newydd a chynnal sefydlogrwydd tymor hwy ar draws yr ecosystem ymchwilio ac arloesi.

Byddwn hefyd yn cyfrannu at gynnal safle uchel yn fyd-eang mewn effaith a fesurir drwy gyfeiriadau wedi’i phwysoli yn ôl maes, drwy ein buddsoddiadau sy’n gyrru allbynnau ymchwil o ansawdd uchel.

Cryfderau ymchwil

<1%

o boblogaeth y byd yn y Deyrnas Unedig

6%

o gyhoeddiadau academaidd y byd

12%

o’r cyhoeddiadau a ddyfynnir fwyaf yn y byd

Mae

20%

o’r erthyglau a gysylltir â’r Deyrnas Unedig yn ymddangos yn y 10% uchaf a ddyfynnir fwyaf yn fyd-eang

Mae

30%

o’r erthyglau a gysylltir ag UKRI yn ymddangos yn y 10% uchaf a ddyfynnir fwyaf yn fyd-eang

Cynnal hyblygrwydd drwy gyllid grant bloc

Rydym yn ariannu dwy ochr y system cymorth deuol. Mae grantiau ymchwil dan arweiniad ymgeiswyr a ddarperir gan y cynghorau ymchwil, a’n Rhaglenni Blaenoriaethau newydd yn rhoi cymorth ar gyfer prosiectau penodol; mae Research England yn darparu cyllid ymchwil sy’n gysylltiedig ag ansawdd drwy grantiau bloc i sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. , Mae cyllid grant bloc ledled y Deyrnas Unedig yn chwarae rhan sylfaenol hanfodol, gan roi sylw i fylchau cyllido a darparu’r sefydlogrwydd a’r hyblygrwydd er mwyn i sefydliadau fynd ar drywydd strategaethau ymchwil uchelgeisiol, hirdymor na fyddent yn bosibl fel arall. Byddwn yn cynnal cyllid craidd sy’n gysylltiedig ag ansawdd ar gyfer prifysgolion Lloegr mewn termau real, gan fuddsoddi o leiaf £2.2 biliwn y flwyddyn dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant – bron i chwarter cyllideb gyflawn UKRI. Bydd hyn yn cynnal cydbwysedd cymorth deuol ar oddeutu 64c am bob £1 a fuddsoddir dros gyfnod yr adolygiad o wariant.

Mae cyfran yr ymchwil a wneir drwy brifysgolion yn ffynhonnell gryfder nodedig yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cyllid dilyffethair yn rhoi cymorth i’r bobl, i’r seilwaith ymchwil a ddefnyddiant, a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu ynddynt. Mae’n angori partneriaethau strategol hirdymor, gan ganiatáu i brifysgolion fynd ar drywydd cyfleoedd a chydweithio ar draws sectorau, disgyblaethau a rhanbarthau.

Dyma sylfeini hanfodol system Ymchwilio ac Arloesi’r Deyrnas Unedig. Y sylfeini hyn sy’n sicrhau bod ymchwil darganfod ac ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd yn gallu ffynnu.

Bydd y newidiadau yn ein dull dyrannu ar gyfer cyllid ymchwil sefydliadol strategol yn Lloegr yn cael eu gweithredu erbyn diwedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant. Byddwn yn dal i adolygu effeithiolrwydd ein cyllid grant bloc a’n mecanweithiau dyrannu y tu hwnt i’r cyfnod hwn.

Mae natur unigryw system gyllido’r Deyrnas Unedig hefyd yn golygu nad dim ond derbyn cyllid y mae prifysgolion, maent hefyd yn gyd-fuddsoddwyr pwysig. Maent yn cynyddu’r cyllid oddi wrth ddiwydiant, gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddwyr eraill. Maent yn barod ac yn abl i gydweithio â phrifysgolion eraill, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Mae prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn bartneriaid go iawn mewn cynlluniau hirdymor a newydd.

Arwain safonau byd-eang mewn asesu ymchwil

Mae systemau asesu ymchwil yn sicrhau bod buddsoddiadau’n mynd lle mae rhagoriaeth yn ffynnu, ond mae rhagoriaeth i’w weld ar sawl ffurf. Byddwn yn gweithio gyda chyrff cyllido addysg uwch eraill y Deyrnas Unedig ac yn cydweithio â’n cymheiriaid rhyngwladol i gadw ein statws fel arweinwyr byd-eang ym maes asesu ymchwil. Byddwn yn cyflwyno system sy’n cydnabod ystod amrywiol o allbynnau ymchwil ac yn annog rhagoriaeth ymchwil, effaith ac amgylcheddau ymchwil strategol.

Drwy weithio gyda phrifysgolion a chyllidwyr mawr eraill, byddwn yn parhau i adolygu sut mae ein cyllid ymchwil sefydliadol yn gweithredu yn Lloegr. Bydd ein hadolygiad o gyllid ymchwil sefydliadol yn gweithio i gyflawni’r uchelgais a nodir yn y Papur Gwyn ar Sgiliau ac Addysg ôl-16. Byddwn yn annog prifysgolion, fel sefydliadau annibynnol, i arbenigo a chydweithio mewn ffyrdd sy’n adeiladu’r galluoedd Ymchwilio ac Arloesi y mae ar y wlad eu hangen.

Sicrhau bod ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd yn gallu ffynnu

Byddwn yn buddsoddi £2.3 biliwn yn y galluoedd sy’n cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd: ein canolfannau, ein sefydliadau, ein Catapyltiau a’n hunedau o’r radd flaenaf, ein partneriaethau rhyngwladol a’n seilweithiau haen uchaf.

Mae meta-wyddorau ar drobwynt, ac mae gennym uchelgais i’r Deyrnas Unedig fod ar flaen y gad ym maes ymchwil meta-wyddorau yn y pum mlynedd nesaf. Byddwn yn harneisio ei bŵer, gan ddefnyddio Uned Meta-wyddorau a gynhelir gan UKRI a’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (DBIST) i lywio’r system ymchwilio yn ddeallus ac ehangu effaith ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd.

Mae deallusrwydd artiffisial yn ailddiffinio ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd ac yn agor llwybrau newydd ar gyfer darganfod, efelychu a dadansoddi. Byddwn yn grymuso ymchwilwyr i fabwysiadu a defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd greadigol a chyfrifol, gan sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arwain wrth ddatblygu a chymhwyso’r adnoddau hyn. Wrth wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod dulliau ymchwilio yn gwella, nid yn tanseilio, uniondeb ac ansawdd ymchwil gwyddonol. Bydd yr Uned Meta-wyddorau yn cynnal ymchwil er mwyn deall yn well sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei fabwysiadu a’i ledaenu ar draws gwahanol ddisgyblaethau a chyfnodau gyrfa.

Bydd polisïau ymchwil agored cryfach a buddsoddiad Mynediad Agored parhaus yn gwella tryloywder ac ymddiriedaeth. Byddwn yn dal i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth sy’n llywio ac yn cynnal newid yn y maes cyhoeddi ar draws y sector.

2: Rhoi sylw i flaenoriaethau strategol y llywodraeth a chymdeithas

Dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant byddwn yn targedu ein buddsoddiadau fel eu bod yn rhoi hwb i dwf economaidd, yn gwella iechyd a lles, yn diogelu’r amgylchedd ac yn cryfhau’r diogelwch a’r cadernid cenedlaethol.

Byddwn yn creu rhaglenni rhyngddisgyblaethol newydd a fwriedir i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth a chymdeithas, ac i sbarduno datblygiadau arloesol ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y Rhaglenni Blaenoriaethau newydd hyn yn nodi’r meysydd lle dylai’r Deyrnas Unedig fynd ar drywydd arweinyddiaeth sofran, y rolau y dylai eu cymryd, a’r allbynnau sydd eu hangen i lwyddo.

Byddwn yn fwy dethol ynghylch yr ymyriadau a wnawn mewn unrhyw sector i sicrhau’r elw mwyaf posibl i’r Deyrnas Unedig. Mae cydweithio â llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig, gyda diwydiant, busnesau ac elusennau, a gyda phartneriaid rhyngwladol, yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau. Byddwn yn parhau i harneisio rôl hanfodol sefydliadau ymchwil cenedlaethol yn cefnogi blaenoriaethau pwysig y llywodraeth a sicrhau twf economaidd.

Bydd UKRI yn targedu gwerth £6.8 biliwn o fuddsoddiadau ar draws sectorau twf blaenoriaeth y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar feysydd lle gall y Deyrnas Unedig arwain yn fyd-eang a lle gall cyllid ddatgloi’r effaith economaidd a chymdeithasol fwyaf. Fel rhan o’n huchelgais i helpu cwmnïau i sefydlu, ehangu ac aros yn y Deyrnas Unedig, byddwn yn buddsoddi £5.1 biliwn arall i gefnogi cwmnïau arloesol, yn rhai newydd a sefydledig, sy’n gweithredu ar draws sectorau’r strategaeth ddiwydiannol a blaenoriaethau ehangach y llywodraeth.

Bydd ein buddsoddiad yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau a fwriedir i ysgogi twf a chreu effaith ym mhob maes blaenoriaeth. Gallai’r rhain gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, cyflymu’r broses o fasnacheiddio cynhyrchion, a chydweithio â’n partneriaid. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni sgiliau a hyfforddiant, a dibynnwn ar lif sgiliau cryf ar draws pob sector er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau. Byddwn yn gweithio gyda’r llywodraeth a’n partneriaid i ganfod bylchau, datblygu dawn a sicrhau bod arbenigedd yn cael ei ddefnyddio lle mae fwyaf ei angen.

Mae ein Rhaglenni Blaenoriaethau newydd yn nodi newid yn ein hagwedd at fuddsoddi. Mae’r rhaglenni hyn yn wirioneddol amlddisgyblaethol, a byddant yn gweithredu ar draws UKRI yn ei ehangder a chânt eu creu a’u cyflwyno mewn partneriaeth agos â llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y blaenoriaethau buddsoddi a chydbwysedd y portffolio yn cael eu goruchwylio gan fyrddau rhaglenni un-pwrpas gyda’r aelodau’n cael eu dethol o blith arbenigwyr uwch UKRI a phartneriaid yn llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn ogystal ag arbenigwyr annibynnol. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb da rhwng amcanion polisi, dewisiadau buddsoddi a chyflawni.

Mae cyllideb flynyddol o dros
£9bn
yn ein gwneud yn brif fuddsoddwr ymchwilio ac arloesi cenedlaethol yn Ewrop

Byddwn yn mapio ein blaenoriaethau’n unol â blaenoriaethau strategol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys sectorau twf y Strategaeth Ddiwydiannol (IS-8) a thechnolegau blaengar, wedi’u hategu gan y Cynllun ar gyfer Newid. Bydd y buddsoddi a wneir drwy’r rhaglenni newydd yn sbarduno twf economaidd, gyda llawer ohonynt yn rhoi sylw i heriau cymdeithasol.

Byddwn hefyd yn dewis technolegau arbenigol lle gall y Deyrnas Unedig gryfhau ei rôl fyd-eang a dylanwadu, meithrin dylanwad, cefnogi cynghreiriaid ac ennill mantais strategol. Ar draws y portffolio, ein nod yw sicrhau £3 o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfartaledd am bob £1 o gyllid cyhoeddus, gyda rhai sectorau’n cael mwy fyth o adenillion.

Mae gallu UKRI i ddod â’r gwyddorau, y celfyddydau a’r dyniaethau ynghyd yn un o’n cryfderau craidd. Mae’r Rhaglenni Blaenoriaethau yn gyfle i fanteisio ar y cryfder hwn, gan ddwyn ynghyd doreth o wybodaeth ddisgyblaethol i ddatrys problemau cymdeithasol.

Er ein bod am feithrin ehangder ar draws ein prifysgolion, rydym hefyd am annog prifysgolion i ganolbwyntio ar eu cryfderau ymchwil. Byddwn yn galluogi prifysgolion i fod yn ddigon eang i ffurfio timau amlddisgyblaethol o fewn ac ymhlith sefydliadau, tra’n cefnogi arbenigedd i helpu i gynyddu mantais gymharol y Deyrnas Unedig, drwy fwy o ragoriaeth a sylfaen ymchwil fwy cynaliadwy.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn targedu £11.9 biliwn o fuddsoddiad dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant ar draws sectorau’r strategaeth ddiwydiannol a blaenoriaethau ehangach llywodraeth y Deyrnas Unedig
  • yn cyflymu twf a datblygiadau arloesol yn sectorau mwyaf strategol bwysig y Deyrnas Unedig, gan droi rhagoriaeth ymchwil yn ganlyniadau masnachol, cymdeithasol a diogelwch
  • yn targedu cymhareb drosoledd gyfartalog o £3 o leiaf o fuddsoddiad preifat am bob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus ar draws buddsoddiadau ein Rhaglenni Blaenoriaethau
  • yn buddsoddi £750 miliwn i adeiladu’r seilwaith digidol a chyfrifiannu sydd ei angen ar y Deyrnas Unedig i sicrhau ei lle fel arweinydd rhyngwladol ym maes adnoddau cyfrifiannol
  • yn trosi ymchwil a ysgogir gan fwriad yn effaith yn y byd go iawn, gan fuddsoddi £500 miliwn drwy’r Rhaglen Sbarduno Bwriadau Ymchwilio ac Arloesi

Effaith: Partneriaeth ymchwil dan arweiniad yr Alban yn cyflawni canlyniadau cymdeithasol byd-eang

Gall cyrff anllywodraethol ledled y byd erbyn hyn weithredu’n fwy cynaliadwy, cynnal egwyddorion cyflog teg a gwella lles staff ledled y byd diolch i ymchwil a gefnogir gan UKRI.

Defnyddiwyd grant a ddyfarnwyd gan UKRI i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caeredin yn 2007 i archwilio anghysondebau mewn perfformiad a chyflogau rhwng staff lleol a rhyngwladol mewn sefydliadau byd-eang. Fe wnaeth cefnogaeth ddilynol gan UKRI alluogi Project Fair i dyfu ac ehangu, gan greu adnoddau rhannu gwybodaeth am ddim, a hyfforddiant â thâl, cynadleddau ac aelodaeth ar gyfer cyrff anllywodraethol ledled y byd. Hyd yma, mae wedi cysylltu â dros 100 o sefydliadau, sy’n gweithredu mewn 190 o wledydd, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar fwy na 178,000 o weithwyr.

Effaith: diogelu cymunedau gogledd-ddwyrain Lloegr drwy amddiffynfeydd naturiol arloesol rhag llifogydd

Mae pentref yn Northumberland a ddioddefodd lifogydd saith gwaith mewn wyth mlynedd wedi cael ei ddiogelu er 2010 diolch i’r technegau rheoli llifogydd naturiol arloesol a gyflwynwyd.

Fe wnaeth y cynllun arloesol ‘peirianneg feddal’ yn Belford, sy’n seiliedig ar ymchwil a ariannwyd gan UKRI a’r Environment Agency, ddefnyddio pyllau ac argaeau ‘sy’n gollwng’ i ddargyfeirio, storio ac arafu dŵr llifogydd. Costiodd y prosiect 90% yn llai na’r dewis arall: argae £2.1 miliwn.

Fe wnaeth llwyddiant y cynllun fraenaru’r ffordd ar gyfer buddsoddi dros £15 miliwn mewn cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd naturiol ledled y wlad. Mae’r prosiectau hyn hefyd yn cynnig manteision ychwanegol drwy wella bioamrywiaeth, gwella ansawdd dŵr a phridd a dal mwy o garbon. Mae’r cynllun hwn yn rhan o bartneriaethau polisi ac ymchwil degawdau o hyd i wella dulliau rheoli llifogydd.

Buddsoddi yn ein Rhaglenni Blaenoriaethau newydd

O wyddorau bywyd a gweithgynhyrchu uwch i wasanaethau ariannol a diwydiannau creadigol, mae un o bileri canolog ffyniant y Deyrnas Unedig i’r dyfodol wedi’i seilio ar gefnogi sectorau twf a’u mapio â chryfderau rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd ein buddsoddiadau’n sbarduno twf economaidd rhanbarthol a byddwn yn ystyried yn ofalus y modelau gorau ar gyfer cefnogi’r agenda lleoedd. Bydd deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol yn torri ar draws sectorau blaenoriaeth, a bydd digideiddio yn cael ei wreiddio ar draws pob rhaglen.

Mae blaenoriaethau buddsoddi ar draws ein rhaglenni newydd yn cynnwys y canlynol.

Digidol a thechnolegau (£4 biliwn)

Deallusrwydd artiffisial

Byddwn yn sbarduno datblygiadau arloesol mewn deallusrwydd artiffisial drwy ganolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth:

  • datblygu technoleg deallusrwydd artiffisial ymhellach
  • trawsnewid ymchwil drwy ddeallusrwydd artiffisial
  • datblygu sgiliau a doniau deallusrwydd artiffisial
  • hyrwyddo deallusrwydd artiffisial cyfrifol a dibynadwy
  • cyflymu datblygiadau arloesol ar gyfer twf economaidd a budd cymdeithasol
  • adeiladu seilwaith a data deallusrwydd artiffisial o’r radd flaenaf

Byddwn yn creu’r seilwaith data a chyfrifiannu ar gyfer prosiectau o bob maint, yn cyflawni map cyfrifiannu’r DU ac yn sicrhau systemau sicrwydd cadarn ar gyfer deallusrwydd artiffisial diogel mewn lleoliadau sy’n cael eu rheoleiddio. Byddwn yn gweithredu ein fframwaith strategol cyntaf ar gyfer deallusrwydd artiffisial , sy’n datgan sut byddwn yn troi ymchwil yn fanteision ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd.

Bydd ein buddsoddiadau’n cynnal safle’r Deyrnas Unedig fel arweinydd byd-eang mewn systemau esboniadwy lle mae gan bobl ran yn y broses, deallusrwydd artiffisial asiantaidd, cyfrifiadura ymylol a modelau cynaliadwy, gydag ecosystem dechnolegol gryfach yn y Deyrnas Unedig sy’n cyflymu hyrwyddwyr deallusrwydd artiffisial domestig.

Mae mabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn ganolog i gyflawni ein cenhadaeth. Yn ogystal â buddsoddi’n uniongyrchol yn ein Rhaglen Blaenoriaethau, bydd UKRI hefyd yn buddsoddi yn y maes hwn drwy ein hymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd a buddsoddiadau mewn rhaglenni ehangach, sy’n golygu y bydd cyfanswm y buddsoddiad mewn deallusrwydd artiffisial ar draws cyfnod yr Adolygiad o Wariant yn fwy na £1.6 biliwn.

Technolegau cwantwm

Gan adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Technolegau Cwantwm Genedlaethol y Deyrnas Unedig, byddwn yn rhoi hwb i’r newid oddi wrth ymchwil o’r radd flaenaf i gynhyrchion masnachol a chyflwyno ar raddfa fawr. Bydd ein buddsoddiadau blaenoriaethol yn ehangu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadura cwantwm, yn datblygu’r prosesau cwantwm-synhwyro, delweddu ac amseru, ac yn mynd i’r afael â’r heriau a geir gyda rhwydweithiau cyfathrebu cwantwm-ddiogel ar draws sectorau allweddol. Byddwn yn parhau i gefnogi’r hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ecosystem cwantwm y Deyrnas Unedig ar draws gwahanol gamau gyrfa a lefelau sgiliau.

Bioleg peirianneg

Er mwyn gwarchod safle’r Deyrnas Unedig fel arweinydd byd-eang dibynadwy ym maes bioleg peirianneg, byddwn yn cefnogi ymchwil arloesol diogel a chyfrifol ac yn cefnogi’r gwaith o fasnacheiddio a thyfu cwmnïau mawr eu potensial yn gyflymach. Byddwn yn cryfhau seilwaith y Deyrnas Unedig, partneriaethau traws-sector, datblygiad gweithluoedd a datblygiadau arloesol cyfrifol. Bydd y blaenoriaethau yn cynnwys iechyd, gweithgynhyrchu, systemau bwyd a gwydnwch amgylcheddol.

Uwch-dechnolegau cysylltedd (ACT), seiber-ddiogelwch a lled-ddargludyddion

Mae buddsoddiadau mewn ACT yn sylfeini i seilwaith cenedlaethol hanfodol y Deyrnas Unedig, ac yn galluogi i ddata gael ei drosglwyddo’n ddiogel, yn gadarn ac yn ynni-effeithlon. Mae ein ffocws yn dechrau gyda dwy her: Rhwydweithiau Diogel a Chydnerth a Rhwydweithiau Cynaliadwy. Bydd y buddsoddiadau hyn yn cyflymu’r broses o droi ymchwil yn atebion yn y byd go iawn ac yn cefnogi cryfderau’r Deyrnas Unedig yn y sector.

Mae sicrhau cadernid a gweithrediadau diogel mewn byd digidol yn gofyn am ddatblygiadau arloesol cyson mewn dulliau ac offer seiber-ddiogelwch. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu sgiliau seiber-ddiogelwch a chefnogi’r gwaith parhaus o fasnacheiddio dulliau newydd sy’n gallu cadw pobl a busnesau’r Deyrnas Unedig yn ddiogel rhag bygythiadau seiber.

Mae angen lled-ddargludyddion ar gyfer amrywiaeth eang o gynhyrchion sy’n hanfodol i ffyniant a diogelwch cenedlaethol y Deyrnas Unedig. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i adeiladu ar gryfderau craidd y Deyrnas Unedig mewn eiddo deallusol a dylunio lled-ddargludyddion, lled-ddargludyddion cyfansawdd a rhyng-gysylltwyr optegol, gan sicrhau bod y Deyrnas Unedig ar y blaen mewn meysydd allweddol yn y diwydiant lled-ddargludyddion byd-eang.

Gwyddorau bywyd (£1.5 biliwn)

Drwy droi darganfyddiadau biolegol yn effaith yn y byd go iawn, byddwn yn gwella canlyniadau iechyd, yn cryfhau’r gwasanaeth iechyd ac yn ehangu cwmnïau gwyddorau bywyd sy’n arwain ar lefel fyd-eang yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y canlynol:

  • clefydau difrifol
  • atal
  • diagnosteg a alluogir drwy ddata
  • technoleg feddygol a meddyginiaethau’r genhedlaeth nesaf
  • datblygiadau arloesol sy’n cefnogi’r gwasanaeth iechyd i symud oddi wrth ofal yn yr ysbyty i ofal yn y gymuned

Byddwn yn datgloi potensial economaidd llawn sector gwyddorau bywyd y Deyrnas Unedig, gan ddenu buddsoddiad gan ddiwydiannau fferyllol a thechnoleg feddygol byd-eang, a sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn un o’r arweinydd byd-eang ym maes ymchwilio ac arloesi biofeddygol.

Gweithgynhyrchu uwch (£1.3 biliwn)

Gall gweithgynhyrchu uwch wella cynhyrchiant a thwf, gan alluogi systemau gweithgynhyrchu mwy effeithlon a chadarn gyda gwell ansawdd a llai o gostau. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddiwydiannau gweithgynhyrchu sydd â’r potensial i dyfu fwyaf, gan gynnwys y sector modurol, batris, awyrofod, gofod, uwch-ddeunyddiau a thechnoleg amaethyddol. Byddwn hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a defnyddio technolegau a phlatfformau gweithgynhyrchu trawsbynciol. Mae’r rhain yn cynnwys roboteg ac awtomeiddio deallus, synhwyro ac offeryniaeth, gweithgynhyrchu haen-ar-haen a seilwaith digidol. Bydd hyn yn rhoi gwell cydlyniant ar draws sectorau.

Technoleg Amaeth

Byddwn yn harneisio cryfderau’r Deyrnas Unedig mewn technolegau trachywir, gan gynnwys roboteg, systemau a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial a bioleg peirianneg, i sbarduno trawsnewidiad yn amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng technoleg. Byddwn yn darparu atebion sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ac sy’n rhoi hwb i gynhyrchiant, yn meithrin y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ac yn lleihau allyriadau. Bydd y buddsoddiadau hyn hefyd yn denu buddsoddiad preifat ac yn cefnogi diwydiant technoleg amaethyddol cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig sy’n gystadleuol ar lefel fyd-eang.

Ynni glân (£1.2 biliwn)

Gall technolegau ynni glân roi inni system ynni ddiogel, carbon isel a thwf ar gyfer y Deyrnas Unedig. Gan adeiladu ar gryfderau technolegol y Deyrnas Unedig, byddwn yn sicrhau rhannau allweddol o’r gadwyn gyflenwi, o lafnau tyrbinau gwynt i danwydd newydd ar gyfer ymholltiad niwclear. Byddwn yn cefnogi atebion annibynnol a digidol a ddatblygwyd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y system ynni, gartref ac fel gwasanaethau y gellir eu hallforio. Byddwn hefyd yn creu’r amodau hirdymor er mwyn i’r Deyrnas Unedig arwain technolegau’r genhedlaeth nesaf yn y 2030au, o droi datblygiadau ymholltiad yn ddyluniadau ar gyfer gorsafoedd pŵer yn y Deyrnas Unedig, i ehangu prosiectau cael gwared ar garbon arddangosol.

Amddiffyn a diogelwch gwladol (£555 miliwn)

Mae’r dirwedd geowleidyddol bresennol yn golygu mai un o’n blaenoriaethau ydy gwneud y Deyrnas Unedig yn fwy diogel gartref ac yn gryfach dramor, ac mae hyn yn gofyn am ddyfeisgarwch gwyddonol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, fel y Weinyddiaeth Amddiffyn, i gyflawni twf a blaenoriaethau diogelwch ac amddiffyn cenedlaethol, gan fanteisio ar eu buddsoddiadau sylweddol mewn ymchwilio ac arloesi.

Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid i ddatblygu fframwaith strategol sy’n adeiladu ar feysydd o gryfder academaidd, sy’n rhagweld y gofynion amddiffyn a diogelwch i’r dyfodol, ac sy’n creu cyfleoedd i dyfu. Bydd y fframwaith yn arwain rhaglen o fuddsoddiadau i baratoi llif o ddoniau a sgiliau, mwy o fynediad at amgylcheddau ymchwilio ac arloesi dau ddefnydd, a mantais strategol ar gyfer Teyrnas Unedig fwy diogel.

Diwydiannau creadigol (£369 miliwn)

Y diwydiannau creadigol yw un o lwyddiannau mwyaf y Deyrnas Unedig. Byddwn yn cyflymu twf yn y sector drwy arwain ymdrechion i gynyddu buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwilio ac arloesi. Byddwn yn darparu arweinyddiaeth mewn technolegau creadigol, gan esgor ar fanteision i’r sector a sgil-fanteision. Byddwn yn defnyddio potensial eiddo deallusol y Deyrnas Unedig i’r eithaf.

Byddwn yn galluogi hyn drwy’r canlynol:

  • cefnogaeth ddi-dor ar gyfer syniadau sy’n torri tir newydd, o gamau cynnar ymchwil hyd at ei fasnacheiddio
  • buddsoddiad parhaus mewn Clystyrau Diwydiannau Creadigol sy’n helpu canolfannau rhanbarthol a dinesig i feithrin datblygiadau arloesol, denu buddsoddiad, a chreu swyddi
  • buddsoddi mewn sgiliau a dawn, partneriaethau rhyngwladol a pholisi

Bydd hyn yn helpu i greu economi greadigol a diwylliannol ffyniannus, lle bydd mwy o bobl yn gallu mwynhau diwylliant a chreadigrwydd ac elwa ohonynt.

Gwasanaethau proffesiynol, busnes ac ariannol (£118 miliwn)

Byddwn yn buddsoddi mewn ymchwil wedi’i dargedu i roi hwb i gystadleurwydd yn sectorau gwasanaethau ariannol, proffesiynol a busnes y Deyrnas Unedig mewn oes o newid technolegol mawr. Gan weithio’n agos gyda chwmnïau blaenllaw, newydd-ddyfodiaid ac arloeswyr uchelgeisiol, bydd ein buddsoddiadau’n cefnogi’r datblygiadau arloesol sydd eu hangen mewn rheoliadau a safonau i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig yw’r lle gorau i ddarparu gwasanaethau uchel eu gwerth. Byddwn hefyd yn hyrwyddo mynediad at ddata cyhoeddus i gefnogi datblygiadau arloesol radical ac i gefnogi twf cwmnïau her a modelau busnes newydd.

Blaenoriaethau ehangach (£2.9 biliwn)

Ochr yn ochr â buddsoddi mewn sectorau IS-8 blaenoriaethol, bydd UKRI yn cefnogi set ehangach o ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol hanfodol gyda dros £2.9 biliwn dros bedair blynedd, gyda’r hyblygrwydd i fod yn agored i flaenoriaethau newydd.

Gwella gwydnwch y Deyrnas Unedig

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gynhyrchir drwy ein harweinyddiaeth fyd-eang mewn modelu amgylcheddol, byddwn yn sicrhau bod y systemau ffisegol a chymdeithasol yn wydn ac wedi addasu yn wyneb hinsawdd sy’n newid yn unol â’r Rhaglen Addasu Genedlaethol.

Cryfhau safle’r Deyrnas Unedig yn y gofod

Byddwn yn sefydlu UKRI fel y sefydliad cyflawni dibynadwy ar gyfer ymchwilio ac arloesi yn y gofod, gan wella gallu’r Deyrnas Unedig yn y sector gofod yn rhyngwladol. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r meysydd sy’n angenrheidiol i gyflawni’r uchelgais un llywodraeth ar gyfer y Strategaeth Ofod Genedlaethol.

Iechyd planhigion ac anifeiliaid a bwyd

Gan harneisio cryfderau’r Deyrnas Unedig mewn gwyddorau bwyd, anifeiliaid a phlanhigion, byddwn yn arloesi ar draws y system fwyd ac yn datblygu canlyniadau One Health i bobl, anifeiliaid, planhigion ac ecosystemau. Drwy gyfrwng datblygiadau mewn amaethyddiaeth, maeth a gwyddorau bywyd, byddwn yn gwella gwydnwch, cynaliadwyedd a bioddiogelwch.

Buddsoddiadau ychwanegol sy’n flaenoriaethau

Bydd ein rhaglen Sbarduno Cenhadaeth Ymchwilio ac Arloesi gwerth £500 miliwn a grëwyd gydag adrannau’r llywodraeth a’r gymuned ymchwilio ac arloesi, yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau ymchwil allweddol sy’n wynebu pum cenhadaeth genedlaethol y llywodraeth. Bydd gan bob her dargedau clir a mesuradwy gyda therfynau amser penodol ar gyfer cael effaith yn y byd go iawn. Disgwylir i brosiectau nad ydynt yn cyflawni gael eu dirwyn i ben yn gynnar, fel y gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer prosiectau eraill.

Byddwn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Caledwedd Deallusrwydd Artiffisial y DU, gan gynnwys buddsoddiadau a fydd yn cefnogi diwydiant y Deyrnas Unedig i ddatblygu caledwedd deallusrwydd artiffisial. Bydd hwn yn ategu buddsoddiad mawr o £750 miliwn mewn seilwaith ymchwil ddigidol a nodir ym map cyfrifiannu’r DU. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi’r gwasanaeth uwchgyfrifiadura cenedlaethol nesaf yng Nghaeredin, a’r adnoddau cyfrifiadurol cenedlaethol a’r meddalwedd, y data a’r sgiliau ategol sydd eu hangen i gynyddu eu heffaith.

Byddwn yn dal i fuddsoddi mewn troi ymchwil yn dystiolaeth gadarn er mwyn llunio polisïau mwy effeithiol, gan weithio gydag adrannau’r llywodraeth a chanolfannau What Works ar heriau mwyaf dybryd y Deyrnas Unedig. Defnyddir £240 miliwn arall i gefnogi ein seilwaith, ein canolfannau, ein sefydliadau a’n Catapyltiau a’n hunedau a’n doniau er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

Effaith: diwygio’r ffordd y caiff lleoliadau cerddoriaeth fyw eu plismona

Llywiodd prosiect Bass Culture UKRI, dan arweiniad Prifysgol Westminster, newidiadau mewn polisïau ar gyfer rheoleiddio a phlismona lleoliadau cerddoriaeth fyw. Chwaraeodd tîm y prosiect ran bwysig yn y gwaith o gychwyn a chyfrannu at yr adroddiad ‘State of Play: The Grime Report (2017), a oedd yn cyfuno ymchwil ddiwylliannol gyda data cynhwysfawr gan Ticketmaster i ddangos llwyddiant masnachol cerddoriaeth grime a herio’r rhagdybiaethau sy’n ei chysylltu â risg uwch. Cafodd y dystiolaeth hon ei defnyddio gan dîm Ysgrifennydd Diwylliant llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu ffurflen ‘696’ Heddlu’r Met yn llwyddiannus; roedd hon yn un o’r arferion trwyddedu a gafodd ei feirniadu’n eang am gyfyngu’n anghymesur ar ddigwyddiadau cerddoriaeth Ddu Brydeinig.

3: Helpu cwmnïau i ddechrau, ehangu ac aros yn y Deyrnas Unedig

Mae datblygiadau arloesol yn pweru cynhyrchiant, twf a safonau byw gwell. Mae’r Deyrnas Unedig yn rhagori mewn darganfyddiadau, busnesau newydd a busnesau deilliadol, ond eto, pan mae ehangu yn y cwestiwn, mae gormod o fusnesau arloesol yn ei chael yn anodd neu’n symud dramor.

Mae UKRI mewn sefyllfa unigryw i gefnogi’r syniadau beiddgar a ddaw allan o brifysgolion, labordai a chymunedau, gan eu helpu i dyfu’n ddiwydiannau yfory. Rydym am wneud y Deyrnas Unedig yn wlad lle mae dawn ac uchelgais nid yn unig yn cael eu cydnabod ond yn cael eu gwireddu. Mae hyn yn golygu cysylltu’r siwrnai o ddarganfod drwodd i gymhwyso ac ehangu. Byddwn yn sicrhau bod y bobl, y syniadau a’r eiddo deallusol sy’n cael eu creu drwy’r siwrnai hon yn cael eu cefnogi i sicrhau budd parhaol yn y Deyrnas Unedig.

Mae dechrau ac ehangu cwmnïau llwyddiannus yn dibynnu ar bobl sydd â’r sgiliau i droi syniadau yn gynhyrchion, i arwain timau ac i ddenu buddsoddiad. Rydym yn cefnogi’r arloeswyr mwyaf disglair, gan gynnig hygrededd, cysylltiadau a llwybrau buddsoddi sy’n eu helpu i lansio, tyfu a gwreiddio yn y Deyrnas Unedig. Wrth wneud hynny, rydym yn symud yn fwriadol o ddarganfod, i gymhwyso, i effaith, gan sicrhau parhad fel y gall yr arloeswyr rydym wedi’u cefnogi yn y camau cynharach ddal i dyfu’n hyderus yn system arloesi’r Deyrnas Unedig.

Crëwyd o leiaf
1,669
o gwmnïau deilliadol er 2004

Mae gweithio ochr yn ochr â’r llywodraethau a’r asiantaethau datganoledig sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd, sgiliau, arloesi a thwf rhanbarthol yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau.

Mae UKRI yn chwarae rhan ganolog yn y genhadaeth hon, gan ddarparu cymorth busnes wedi’i dargedu, arbenigedd masnachol a gwybodaeth ddofn am y sector. Er mwyn cyflawni’r uchelgais hon, byddwn yn datblygu i fod yn wasanaeth arloesi sy’n darparu arlwy integredig o’r dechrau i’r diwedd ar sail anghenion pob busnes. Byddwn yn canfod potensial yn gynharach, gan olrhain cwmnïau wrth iddynt ddatblygu, ac yn gweithio gyda buddsoddwyr, corfforaethau, y llywodraeth a’r ecosystem ehangach i ehangu datblygiadau arloesol yn unol â blaenoriaethau’r wlad.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn sefydlu gwasanaeth arloesi o’r radd flaenaf, o’r dechrau i’r diwedd, sy’n cwmpasu popeth o ymchwil camau cynnar i gyllid ehangu, cymorth rheoleiddiol a chreu marchnadoedd, gan helpu cwmnïau llawn potensial a gefnogir gan UKRI i droi syniadau yn dwf
  • yn cynyddu cyfran y busnesau yn ein portffolio sydd wedi cael buddsoddiad ecwiti preifat neu gyfalaf menter
  • yn adnewyddu polisïau a fframweithiau eiddo deallusol UKRI, gan angori’r arfer o fanteisio ar eiddo deallusol a gwerth economaidd o fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwilio ac arloesi yn y Deyrnas Unedig
  • yn hyrwyddo diwylliant entrepreneuraidd bywiog a llwybrau dibynadwy at gyfalaf, gan gadw gwerth wedi’i angori yn y Deyrnas Unedig
  • yn cryfhau partneriaethau buddsoddwyr domestig a byd-eang, gan wella amlygrwydd busnesau yn y Deyrnas Unedig a helpu arloeswyr i gael gafael ar y cyfalaf sydd ei angen i ehangu
  • yn adolygu ein dull o ddyrannu cyllid ar gyfer cyfnewid gwybodaeth i hybu galluoedd ar draws prifysgolion

Effaith: sbarduno twf yng nghlwstwr biowyddorau a gwyddorau bywyd ffyniannus Gogledd Orllewin Lloegr

Chwaraeodd cronfa Strength in Places UKRI ran ganolog i helpu Ysgol Feddygaeth Drofannol Lerpwl (LSTM) i droi ei chryfderau ymchwil yn ganlyniadau economaidd, iechyd a chymdeithasol. Er 2020, mae’r Consortiwm Datblygiadau Arloesi ar gyfer Heintiau dan arweiniad LSTM (iiCON) wedi denu dros £280 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, wedi cefnogi dros 36 o gynhyrchion a thechnolegau tuag at y farchnad, ac wedi cryfhau gallu’r Deyrnas Unedig i arloesi ym maes heintiau. Mae’n cyfrannu’n uniongyrchol at gystadleurwydd a chynhyrchiant diwydiannol y Deyrnas Unedig ym maes gwyddorau bywyd. Cefnogwyd hyn gan staff Cyfnewid Gwybodaeth a gefnogir gan UKRI, gallu eiddo deallusol a datblygu busnes yn yr LSTM i drosi arbenigedd ymchwil yn gynigion sy’n barod am bartner: gan lunio cynigion, ffurfio consortia, broceru diwydiant a phartneriaethau’r Gwasanaeth Iechyd, a chynnal trefniadau cydweithio hirdymor.

Integreiddio cymorth i godi safonau ansawdd

Byddwn yn anelu ein buddsoddiadau at fusnesau sydd â’r potensial mwyaf, gan roi blaenoriaeth i’r rheini sydd â’r siawns mwyaf o drawsnewid, ehangu a bod o fudd i’r wlad. Wrth galon y dull hwn, bydd ein gwasanaeth rheoli cyfrifon Velocity yn cyflymu’r broses o fasnacheiddio datblygiadau arloesol, gan helpu cwmnïau i droi technoleg addawol yn dwf y gellir ei ehangu.

Gan ddefnyddio ein rôl ganolog yn system ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig, byddwn yn adnabod ac yn cefnogi cwmnïau addawol yn gynharach ar eu siwrnai. Yn hytrach nag ymyriadau un-tro, byddwn yn gweithio mewn ffordd fwy gweithredol, gan gamu i mewn ar adegau tyngedfennol, darparu cymorth wedi’i deilwra dros amser, a chamu’n ôl wrth i fuddsoddiad preifat gymryd drosodd.

Diagram yn dangos sut mae UKRI yn cyflymu twf busnes drwy gefnogi cwmnïau sydd â llawer o botensial drwy gamau ymchwil a datblygu sef syniad, dechrau, tyfu, ehangu, a thyfu’n enfawr. Mae UKRI yn gwneud hyn drwy gefnogi arbenigedd a chyllid sy’n benodol i sector, gan ddileu gwrthdaro er enghraifft wrth gaffael a throsglwyddo technoleg, a darparu dull ‘gofalwr’, gan gamu i mewn ar adegau tyngedfennol.

  • Cymorth

    cyllid ac arbenigedd sy’n benodol i sectorau

  • Dileu gwrthdaro

    er enghraifft drwy gaffael, trosglwyddo technoleg, rheoliadau

  • Velocity

    dull ‘gofalwr’ o dyfu busnesau arloesol

Mae datgloi doniau ledled y wlad yn hanfodol er mwyn cael busnesau o’r radd flaenaf a manteision eang. Byddwn yn ehangu’r gyfranogaeth mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac yn cefnogi llif mwy amrywiol a chynhwysol o sylfaenwyr ac arweinwyr.

Byddwn yn chwarae rhan flaenllaw fel ‘gwasanaeth arloesi’ gan redeg rhaglenni a reolir ar gyfer adrannau’r llywodraeth. Byddwn yn cryfhau system Ymchwilio ac Arloesi’r Deyrnas Unedig drwy bartneriaethau â sefydliadau fel Banc Busnes Prydain, y Gronfa Gyfoeth Wladol a buddsoddwyr sefydliadol i gydlynu cymorth a datgloi llifoedd newydd o gyfalaf i gronfeydd prifysgolion a mentrau camau cynnar.

Creu cymaint â phosibl o fusnesau mawr eu potensial o ymchwil a wneir yn y Deyrnas Unedig

Mae ymchwil ac arloesi cydweithredol, cyfnewid gwybodaeth, trosi a masnacheiddio ymchwil yn hanfodol i gefnogi blaenoriaethau’r llywodraeth, ac i sbarduno effaith ranbarthol a chymdeithasol. Rydym yn darparu pontydd hanfodol rhwng sylfaen ymchwil gradd flaenaf y Deyrnas Unedig a’r heriau a wynebir yn y byd ehangach.

Drwy alluogi ac annog entrepreneuriaeth, byddwn yn rhoi i ymchwilwyr y sgiliau a’r gefnogaeth i droi eu syniadau’n gyfleoedd masnachol hyfyw, yn barod ar gyfer datblygu a buddsoddi.

Bydd fframwaith newydd yn golygu ein bod yn lleihau nifer y cynlluniau rydym yn eu rhedeg, gan helpu i symleiddio ein harlwy a sicrhau ein bod yn defnyddio terminoleg gyson ar draws UKRI. Bydd ein holl fuddsoddiadau trosi yn defnyddio’r fframwaith, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hanelu at flaenoriaethau’r llywodraeth a chymdeithas a’r rheini sy’n sbarduno datblygiadau arloesol. Dyma’r pedwar cynllun:

  • Partneriaethau Ffyniant sy’n galluogi Ymchwilio ac Arloesi cydweithredol
  • Cyflymu Effaith i brofi i ba raddau y gellir cymhwyso syniadau newydd at ddefnydd masnachol
  • Cyllid Profi Cysyniad i brofi’r syniadau hyn ar raddfa fawr
  • Cymorth hyfforddiant entrepreneuriaeth

Byddwn yn defnyddio’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol i weithio gyda phartneriaethau lleol o arweinwyr dinesig, busnesau a phrifysgolion i gyd-greu portffolios buddsoddi seiliedig ar leoedd sy’n adeiladu ar gryfderau ymchwilio ac arloesi pob rhanbarth. Bydd hyn yn helpu clystyrau arloesi sydd â photensial mawr i dyfu, denu buddsoddiad a throi ymchwil yn gynhyrchion, yn wasanaethau ac yn fusnesau newydd, gan greu cyfleoedd a swyddi lleol ledled y Deyrnas Unedig.

Manteision ymchwilio ac arloesi angori yn y Deyrnas Unedig

Ein nod yw sicrhau gwerth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol gorau asedau ac eiddo deallusol a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, a chreu busnesau ffyniannus a swyddi medrus sydd o fudd i’r dinasoedd a’r rhanbarthau lle mae’r datblygiadau arloesol yn digwydd ac i’r Deyrnas Unedig gyfan.

Drwy weithio gyda phartneriaid a sefydlu fframweithiau cliriach a mwy cyson, byddwn yn lleihau’r elfennau sy’n rhwystr rhag manteisio ar eiddo deallusol ac yn sicrhau bod eiddo deallusol yn cael ei fasnacheiddio’n effeithiol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein fframweithiau eiddo deallusol yn cyd-fynd â modelau busnes digidol a deallusrwydd artiffisial newydd.

Bydd meithrin diwylliant mwy entrepreneuraidd yn hybu ymgysylltiad ymchwilwyr a myfyrwyr mewn busnesau deilliadol a busnesau newydd. Bydd ein cyrhaeddiad cenedlaethol a’n harbenigedd yn y sector yn dilysu’r arloeswyr gorau hynny ac yn creu llwybrau dibynadwy at fuddsoddiad.

Effaith: cefnogi menywod i arloesi

Mae ein rhaglen a lansiwyd yn 2016, Menywod yn Arloesi yn hyrwyddo menywod ledled y Deyrnas Unedig sydd â’r potensial i fod yn arweinwyr diwydiant byd-eang y dyfodol. Mae’n cefnogi eu huchelgais i dyfu, gan dynnu sylw atynt fel rôl-fodelau i’r genhedlaeth nesaf. Mae’r rhaglen wedi buddsoddi dros £15 miliwn mewn dros 260 o fenywod sy’n arloesi ac wedi creu cymuned ffyniannus o 11,000 o fenywod sy’n arloesi. Mae ymyriadau wedi’u targedu fel Menywod sy’n Arloesi wedi cynyddu cyfran y ceisiadau llwyddiannus sy’n cael eu harwain gan fenywod ar draws rhaglenni Innovate UK o un o bob saith i un o bob tri. Bydd cymorth i’r dyfodol yn anelu buddsoddiadau at lle mae’r rhwystrau ar eu gwaethaf a lle ceir yr effaith fwyaf ar gyfer twf economaidd cynhwysol.

Galluogi cwmnïau i gael gafael ar gyfalaf ehangu

Mae UKRI yn buddsoddi mwy na £9 biliwn mewn gweithgaredd ymchwilio ac arloesi bob blwyddyn, ond mae hyn yn fach iawn o’i gymharu â’r cyfalaf preifat y gellid ei fuddsoddi mewn cwmnïau yn y Deyrnas Unedig. Fel y buddsoddwr cyhoeddus mwyaf mewn ymchwil, mae gan UKRI drosolwg freintiedig unigryw ar yr ymchwil gorau, y syniadau mwyaf trawsnewidiol, a’r cwmnïau sydd â’r mwyaf o botensial, yn aml ymhell cyn i’r sylfaenwyr hynny hyd yn oed ddechrau siarad â darpar fuddsoddwyr.

Rydym am gynyddu apêl busnesau a gefnogir gan UKRI am gyfalaf preifat. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn cynyddu cyfran y busnesau yn ein portffolio sydd wedi cael buddsoddiad ecwiti preifat neu gyfalaf menter i fwy na 55%.

Byddwn yn goruchwylio portffolio o’r eiddo deallusol sydd â’r mwyaf o botensial ac sydd wedi deillio o’n buddsoddiadau. Ochr yn ochr â chamau gweithredu ehangach y llywodraeth ynghylch mynediad at gyfalaf ehangu, caffael a rheoleiddio, byddwn yn gweithio gyda buddsoddwyr cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Banc Busnes Prydain a’r Gronfa Gyfoeth Wladol, i gyplysu’r syniadau hynny â’r cyfalaf sydd ei angen i’w troi’n gwmnïau sy’n tyfu.

Cryfhau gallu’r sector addysg uwch i gyfnewid gwybodaeth

Mae ein cyllid cyfnewid gwybodaeth yn helpu prifysgolion Lloegr i weithio gyda phartneriaid i leihau risg datblygiadau arloesol, ymateb i heriau lleol a sbarduno twf economaidd cenedlaethol. Byddwn yn adolygu’r dull dyrannu er mwyn troi’r ffocws ar flaenoriaethau’r llywodraeth. Yn y tymor hir, byddwn yn defnyddio data gwell o’n rhaglen metrigau cyfnewid gwybodaeth genedlaethol er mwyn gallu mesur yn fwy effeithiol berfformiad gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth.

4: Cryfhau sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi

Mae system ymchwilio ac arloesi gadarn yn dibynnu ar sylfeini cryf. Mae ein sylfeini’n cefnogi’r ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd sy’n sail i’n holl allbwn arloesi cenedlaethol, sy’n helpu i droi syniadau newydd yn gymwysiadau, ac sy’n gwella bywydau a bywoliaeth cyhoedd y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn buddsoddi dros £8.4 biliwn i feithrin a chynnal sylfeini’r system Ymchwilio ac Arloesi. Mae hyn yn cynnwys doniau, lleoedd, partneriaethau rhyngwladol, seilwaith, a’n campysau, cyfleusterau a chanolfannau, sefydliadau, Catapyltiau ac unedau ymchwilio ac arloesi o’r radd flaenaf. Fwyfwy, mae’r sylfeini hyn hefyd yn cynnwys seilwaith digidol, gallu data a sgiliau sy’n barod ar gyfer deallusrwydd artiffisial sy’n galluogi pobl i ddefnyddio offer newydd yn gyfrifol ac yn effeithiol. Gyda’i gilydd, mae’r sylfeini hyn yn cefnogi siwrnai barhaus a chysylltiedig gan sicrhau bod datblygiadau mewn gwybodaeth, effaith ar gymdeithas a thwf economaidd yn atgyfnerthu ei gilydd. Mae buddsoddi yn y meysydd hyn yn darparu cymorth sy’n hanfodol i gyflawni ein blaenoriaethau strategol a gwireddu ein cenhadaeth.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol i lunio a chynnal ecosystem ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig. Byddwn yn gweithio gydag arweinwyr lleol ledled y Deyrnas Unedig i ganfod ac adeiladu ar eu cryfderau a’u mantais gymharol, gan eu gwneud yn fwyfwy cystadleuol yn rhyngwladol. Pan fydd hyn yn gofyn am gyfaddawdu, byddwn yn gwneud penderfyniadau’n dryloyw, mewn ffordd sy’n cael ei harwain gan dystiolaeth o gryfder lleol, angen cenedlaethol ac effaith hirdymor.

Fe wnaethom gefnogi
27,000
o ysgoloriaethau ymchwil ôl-radd
2,000
o gymrodoriaethau y flwyddyn o 2020-21 i 2024-255

Mae UKRI yn hyrwyddo amgylchedd ymchwil sy’n seiliedig ar uniondeb, cydraddoldeb, cynhwysiant a didwylledd academaidd. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr i sicrhau bod ganddynt y system gynhaliol i gyflawni allbynnau o ansawdd uchel, a byddwn yn cefnogi amgylcheddau lle gall doniau amrywiol ffynnu.

Rydym yn blaenoriaethu partneriaethau diogel ac yn lleihau risgiau. Fel arweinydd byd-eang yn yr arferion gorau, bydd UKRI yn gosod y Deyrnas Unedig fel cyrchfan ddibynadwy ar gyfer buddsoddi a chydweithio rhyngwladol.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn sefydlu partneriaethau cryfach sy’n seiliedig ar leoedd, gan rymuso arweinwyr lleol, cyflymu arbenigedd rhanbarthol a sbarduno cadernid economaidd hirdymor sy’n cael ei arwain gan ddatblygiadau arloesol
  • yn targedu cydweithrediadau rhyngwladol uchel eu gwerth sy’n gwella dylanwad gwyddonol y Deyrnas Unedig, yn sicrhau mantais strategol drwy bartneriaethau amlochrog mawr ac yn chwalu’r elfennau sy’n eu rhwystro rhag creu partneriaethau byd-eang
  • yn buddsoddi dros £3.4 biliwn mewn llif doniau sy’n creu gweithlu ymchwilio ac arloesi amrywiol, entrepreneuraidd sy’n gystadleuol yn fyd-eang
  • yn cryfhau modelau buddsoddi ac yn cydlynu camau gweithredu ar draws y sector ar gynaliadwyedd a chyflwr y system
  • yn moderneiddio trefniadau llywodraethu a chyllido galluoedd cenedlaethol hanfodol, gan sicrhau cysondeb strategol ac atebolrwydd cadarn
  • yn buddsoddi dros £2 biliwn mewn seilwaith ymchwil digidol ac yn cynnal asedau hanfodol
  • yn ehangu ein hymgysylltiad â’r cyhoedd ac yn cryfhau rhaglenni ymgysylltu â phobl ifanc

Effaith: sicrhau mwynau allweddol gyda thystiolaeth a gwybodaeth o Ddwyrain Canolbarth Lloegr

Mae Canolfan Deallusrwydd Mwynau Hanfodol y Deyrnas Unedig (CMIC) yn darparu gwybodaeth gadarn ac annibynnol sy’n helpu i sicrhau cyflenwad mwynau’r Deyrnas Unedig ar gyfer sero net, gweithgynhyrchu uwch a diogelwch cenedlaethol. Mae cyllid yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach yn adeiladu ar ddegawdau o fuddsoddiad gan UKRI mewn archwilio a mapio adnoddau’r Deyrnas Unedig sydd dan yr wyneb drwy’r Arolwg Daearegol Prydeinig. Mae gwybodaeth fanwl CMIC yn galluogi’r llywodraeth a’r diwydiant i ganfod deunyddiau strategol bwysig, gan gynnwys y rhai sydd eu hangen i gyflawni’r Strategaeth Ddiwydiannol.

Maent hefyd yn siapio ymatebion i’r risgiau i gadwyn gyflenwi’r Deyrnas Unedig, ac yn datgloi cyfleoedd domestig gan gynnwys llywio prosiectau sydd eisoes yn mynd rhagddynt, fel lithiwm yng Nghernyw. Mae dadansoddiad CMIC yn ganolog i bolisïau allweddol fel y Strategaeth Mwynau Hanfodol ac mae’n cefnogi penderfyniadau buddsoddi, gydag UK Export Finance yn defnyddio allbynnau CMIC yn uniongyrchol i gyfiawnhau cyllid ar gyfer prosiectau mwynau hanfodol sy’n cryfhau cadwyni cyflenwi’r Deyrnas Unedig.

Effaith: prosiectau arloesol yng Ngogledd Orllewin Lloegr i gefnogi mamau a babanod sy’n cael eu gwahanu

Mae cynllun effaith gymdeithasol arloesol sydd wedi’i ddechrau mewn ymchwil a gefnogir gan UKRI ym Mhrifysgol Caerhirfryn yn helpu mamau a babanod sydd wedi cael eu gwahanu’n fuan ar ôl yr enedigaeth oherwydd pryderon diogelu. Mae ‘Giving Hope’ yn helpu i ddiogelu’r cysylltiad rhwng y fam a’i babi drwy gynnig Bocsys HOPE, sy’n arlwy therapiwtig traws-asiantaeth a fwriedir i roi cysur, lleihau trawma, a chynnig cymorth wrth i famau a babanod lywio drwy’r system amddiffyn plant a’r system cyfiawnder teulu.

Gyda chefnogaeth Cyfrifon Cyflymu Effaith UKRI a SHAPE Catalyst, mae’r bocsys bellach yn cael eu defnyddio ar draws mwy na 30 o ymddiriedolaethau iechyd ac awdurdodau lleol ledled Lloegr. Yn 2025, cafodd Giving Hope un o Wobrau Stephen Lloyd sy’n cefnogi prosiectau cam cynnar sydd â gwir botensial i esgor ar newid cymdeithasol ymarferol a chynaliadwy.

Campysau ymchwilio ac arloesi

Mae gennym dros 560 o gwmnïau a 13,000 o weithwyr mewn saith campws ymchwilio ac arloesi ledled y Deyrnas Unedig.

Buddsoddi’n strategol mewn dinas-ranbarthau a chlystyrau i sbarduno twf rhanbarthol

Mae twf rhanbarthol yn hanfodol i lwyddiant hirdymor y Deyrnas Unedig. Mae’r effaith i’w theimlo fwyaf, yn aml, pan fo’r buddsoddiad yn canolbwyntio ar gryfderau lleol unigryw, ac yn cael ei gydlynu o’u cwmpas, cryfderau fel asedau rhanbarthol, galluoedd arloesi a diwydiannol dwfn eu gwreiddiau, ynghyd â phartneriaethau lleol cryf.

Byddwn yn cysoni ein buddsoddiadau â chryfderau, uchelgeisiau a sgiliau lleol i sbarduno twf economaidd ar draws y Deyrnas Unedig a gwella cystadleurwydd byd-eang.

Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) yn mabwysiadu’r dull hwn o fuddsoddi mewn lleoedd. Byddwn yn buddsoddi £500 miliwn drwy’r LIPF, gan ddwyn ynghyd wybodaeth leol a’n harbenigedd busnes a’n persbectif cenedlaethol. Bydd hyn yn galluogi sefydliadau dinesig, busnesau a phrifysgolion i gyd-greu prosiectau gydag UKRI, gan atgyfnerthu blaenoriaethau lleol a chefnogi twf a arweinir gan ddatblygiadau arloesol ar draws y pedair gwlad.

Drwy gyfrwng ein perthnasoedd cadarn ar draws y Deyrnas Unedig, mae gennym ddealltwriaeth dda iawn o’r asedau a’r galluoedd sy’n sail i dwf rhanbarthol a chenedlaethol. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn dyfnhau ein partneriaethau â llywodraethau datganoledig, dinas-ranbarthau ac arweinwyr lleol i sicrhau bod ein buddsoddiadau’n cyd-fynd yn gydlynol ag uchelgeisiau sy’n seiliedig ar leoedd a buddsoddiad cyhoeddus. Pan fydd llywodraethau lleol a datganoledig yn gosod uchelgeisiau clir sydd wedi’u gwreiddio mewn lle, byddwn yn cydweithio, gan ganfod cyfleoedd i gyd-fuddsoddi a chysoni sy’n cynyddu effaith a gwerth.

Bydd ein Rhaglenni Blaenoriaethau newydd yn cael eu harwain gan alluoedd ac asedau lleol, o lifoedd doniau i seilwaith, gan gefnogi clystyrau arloesi, gan gynnwys y rheini sydd angen lefelau cymharol fach o fuddsoddiad sydd â’r mwyaf o botensial i sbarduno cynhyrchiant, twf ac effaith economaidd. Drwy’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar le ac sy’n gweithredu drwy bartneriaeth, byddwn yn sicrhau bod buddsoddiadau UKRI yn esgor ar fanteision gwirioneddol i bobl, cymunedau ac economïau ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Enghreifftiau o gyfleoedd arloesi cenedlaethol

Map o’r DU gydag enghreifftiau o gyfleoedd arloesi cenedlaethol ym mhob rhanbarth gyda’r sector strategaeth ddiwydiannol cysylltiedig.

Mae’r ffeithlun hwn yn dangos enghreifftiau o fuddsoddiadau UKRI mewn gwahanol sectorau ar draws rhanbarthau’r Deyrnas Unedig; fe’u hamlinellir fel a ganlyn.

Dwyrain Lloegr

Caergrawnt:

  • lled-ddargludyddion cwantwm a deallusrwydd artiffisial

Dwyrain Lloegr:

  • technoleg amaeth
  • gwyddorau bywyd

Dwyrain Canolbarth Lloegr

Dwyrain Canolbarth Lloegr:

  • gweithgynhyrchu uwch
  • ynni glân

Swydd Lincoln Fwyaf:

  • amddiffyn a diogelwch
  • bwyd a thechnoleg amaeth

Llundain

Llundain:

  • atebion technoleg hinsawdd
  • gwyddorau bywyd
  • technolegau cwantwm

Gogledd-ddwyrain Lloegr

Gogledd-ddwyrain Lloegr:

  • diwydiannau creadigol
  • arloesi ym maes iechyd
  • deunyddiau arloesol
  • technolegau’r gofod

Tees Valley:

  • ynni glân

Gogledd-orllewin Lloegr

Manceinion Fwyaf:

  • technoleg iechyd a gwyddorau bywyd
  • gweithgynhyrchu a pheirianneg uwch
  • deallusrwydd artiffisial cymhwysol

Dinas-ranbarth Lerpwl:

  • gwyddorau bywyd
  • cemeg deunyddiau
  • deallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd

Gogledd Iwerddon

Coridor Belfast a Derry:

  • iechyd cysylltiedig
  • arloesi gwyrdd mewn systemau trafnidiaeth

Yr Alban

Caeredin:

  • technoleg ariannol

Dinas-ranbarth Glasgow:

  • technolegau galluogi digidol
  • iechyd a gwyddorau bywyd

Tay Cities:

  • technolegau creadigol a digidol

De-ddwyrain Lloegr

De-ddwyrain Cymru:

  • gweithgynhyrchu uwch
  • systemau cysylltiedig ac awtonomaidd
  • gwyddorau bywyd
  • gwyddorau ffisegol
  • roboteg

De-orllewin Lloegr

De Orllewin Lloegr Fwyaf:

  • systemau awtonomaidd

Gorllewin Lloegr:

  • deallusrwydd artiffisial
  • deunyddiau cyfansawdd
  • diwydiannau creadigol

Cymru

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

  • lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • diwydiannau creadigol

De-orllewin Cymru:

  • diogelwch ffynonellau ynni
  • diogelwch deunyddiau

Gorllewin Canolbarth Lloegr

Gorllewin Canolbarth Lloegr:

  • gweithgynhyrchu a pheirianneg uwch
  • technolegau creadigol
  • technoleg iechyd a gwyddorau bywyd

Swydd Efrog a’r Humber

Hull a Dwyrain Swydd Efrog:

  • ynni glân

De Swydd Efrog:

  • deunyddiau datblygedig
  • gwyddorau bywyd

Gorllewin Swydd Efrog:

  • deunyddiau datblygedig
  • data a deallusrwydd artiffisial
  • technoleg ariannol

Effaith: Cynyddu cyfleoedd i ymchwilio ac arloesi ym mhob gwlad a rhanbarth

Rydym wedi bod yn brysur yn adeiladu ac yn buddsoddi mewn cryfderau ymchwilio ac arloesi ers amser maith. Gwelwyd twf mewn buddsoddiad ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig rhwng blwyddyn 2021 a 2022 a blwyddyn 2024 i 2025, gyda’r rhai sydd wedi cael y lefelau uchaf yn hanesyddol yn cael y cynnydd cyfrannol lleiaf. Gwelwyd cynnydd o 8% mewn buddsoddiad yn Llundain a chynnydd o 13% yn ne-ddwyrain Lloegr.

Roedd Cymru, Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd wedi cofnodi twf cyfrannol uwch na’r cyfartaledd ym muddsoddiad UKRI yn 2024 i 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn 2021 i 2022, gyda Gogledd Iwerddon (59%), De-orllewin Lloegr (57%) a Gogledd-orllewin Lloegr (32%) yn cael yr uchaf. Mae buddsoddiadau UKRI sy’n canolbwyntio ar leoedd wedi cyfrannu at y twf cadarnhaol hwn mewn ymchwil ac arloesi.

Cynnydd canrannol mewn buddsoddiad gan UKRI yn ôl gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig rhwng blwyddyn ariannol 2021 i 2022 a blwyddyn ariannol 2024 i 2025

Cynnydd canrannol mewn buddsoddiad gan UKRI yn ôl gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig rhwng blwyddyn ariannol 2021 i 2022 a blwyddyn ariannol 2024 i 2025: Gogledd Iwerddon 59%, Yr Alban 27%, Gogledd-ddwyrain Lloegr 30%, Gogledd-orllewin Lloegr 32%, Swydd Efrog a’r Humber 19%, Dwyrain Canolbarth Lloegr 27%, Gorllewin Canolbarth Lloegr 20%, Dwyrain Lloegr 20%, Cymru 30%, Llundain 8%, De-ddwyrain Lloegr 13%, De-orllewin Lloegr 57%.

Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol

£500 miliwn i rymuso partneriaethau lleol rhwng sefydliadau dinesig, busnesau a phrifysgolion i harneisio cryfderau ymchwil ac arloesi yn eu rhanbarth i sbarduno twf economaidd hirdymor. O 2031 ymlaen, bydd y Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol yn cael ei datganoli, gan roi hyd yn oed mwy o bŵer i arweinwyr lleol fwydo datblygiadau arloesol a swyddi.

Dulliau Cyflymu Datblygiadau Arloesol

Buddsoddiad £100 miliwn gan UKRI rhwng 2022 a 2025 (gyda £30 miliwn o gyllid cyhoeddus ychwanegol ar gyfer 2025 i 2026) i gyflymu twf tri chlwstwr arloesi mawr eu potensial yn Ninas-Ranbarth Glasgow, Manceinion Fwyaf, a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Cronfa Strength in Places

Buddsoddiad o £316 miliwn gan UKRI rhwng 2022 a 2027 i gefnogi ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig i adeiladu ar gryfderau presennol mewn ymchwil ac arloesi er mwyn sicrhau manteision i’w heconomi leol. Nid yw prosiectau wedi’u cyfyngu yn ôl gwledydd na rhanbarthau.

Gwella cydweithio a chysylltedd rhyngwladol

Gyda 97% o’r gweithgaredd ymchwilio ac arloesi byd-eang yn digwydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol er mwyn dal i allu bod yn gystadleuol a datrys heriau byd-eang a rennir.

Byddwn yn canolbwyntio ar bartneriaethau sy’n rhoi’r budd gwyddonol a strategol mwyaf i’r naill ochr a’r llall, gan fanteisio i’r eithaf ar bartneriaethau amlochrog fel Horizon Ewrop fel buddsoddiadau creu systemau sy’n gallu sicrhau’r enillion gwyddonol, cymdeithasol ac economaidd gorau posibl. Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cyfleoedd a ddarperir drwy raglenni’r Undeb Ewropeaidd fel Horizon Ewrop, a sefydliadau fel CERN.

Bydd ein dull gweithredu yn sicrhau bod ein buddsoddiadau rhyngwladol yn ategu ei gilydd ac yn adeiladu ar y galluoedd a’r cyllid sydd ar gael drwy’r llwybrau hyn. Byddwn yn bartner dibynadwy a chyfrifol yn rhyngwladol, gan sicrhau bod tegwch wrth galon yr hyn a wnawn.

Rydym wedi cymeradwyo dros
10,000
o Fisâu Doniau Byd-eang er 2021

Bydd ein harweinyddiaeth ryngwladol ar bolisi ymchwil yn helpu i siapio’r safonau byd-eang er budd pawb o safbwynt didwylledd, rhyddid academaidd, tegwch a dwyochredd. Drwy chwarae rhan weithredol mewn fforymau polisi a grwpiau rhyngwladol mawr, bydd y Deyrnas Unedig yn dal i ddylanwadu ar sut caiff y polisi Ymchwilio ac Arloesi ei ddatblygu i’r dyfodol, ac yn siapio’r dirwedd seilwaith ryngwladol. Byddwn yn siapio’r arferion gorau byd-eang ym maes ymchwil ac yn cryfhau dylanwad rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Cyrhaeddiad rhyngwladol UKRI

Map yn dangos cyrhaeddiad rhyngwladol UKRI drwy bartneriaethau, swyddfeydd tramor, cyfleusterau ymchwil a buddsoddiadau mewn seilwaith rhyngwladol.

Dengys y ffeithlun hwn gyrhaeddiad rhyngwladol UKRI drwy bartneriaethau, a buddsoddiadau mewn seilwaith rhyngwladol, cyfleusterau ymchwil a swyddfeydd tramor.

Bydd partneriaethau rhyngwladol strategol yn helpu ymchwilwyr ac arloeswyr a gefnogir gan UKRI i wneud y canlynol:

  • datblygu gwybodaeth: gan archwilio gallu ardaloedd trefol yn Tsieina i wrthsefyll yr hinsawdd
  • gwella bywydau: deall peryglon tanau gwyllt gyda Chanada a’r Unol Daleithiau
  • sbarduno twf: masnacheiddio cwantwm gyda busnesau yn yr Almaen a chefnogi datblygiadau arloesol ym maes telegyfathrebu yn India

Mae ein swyddfeydd yng Nghenhadaeth Ddiplomyddol y Deyrnas Unedig yn helpu i sbarduno cysylltiadau ymchwilio ac arloesi strategol gydag arweinwyr ymchwilio ac arloesi byd-eang, ochr yn ochr ag ymdrechion diplomyddol ehangach y Deyrnas Unedig.

Mae buddsoddiadau seilwaith rhyngwladol mawr fel CERN yn gwella’r cydweithio rhyngwladol, gan fynd ar drywydd gwyddoniaeth na fyddai’n bosibl yn unigol, gan gefnogi rhagoriaeth, arweinyddiaeth a sgiliau gwyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig.
Mae Gorsaf Rothera UKRI, sydd dan ofal Arolwg Antarctig Prydain, yn darparu galluoedd ymchwilio allweddol ar gyfer deall ein planed.

Adeiladu’r gweithlu, y diwylliant a’r amodau ar gyfer rhagoriaeth ymchwilio ac arloesi

Drwy ein cyllideb Doniau Cyfunol, byddwn yn buddsoddi dros £3.4 biliwn i gefnogi’r bobl sy’n gweithio ar draws y system Ymchwilio ac Arloesi.

Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylcheddau lle mae doniau amrywiol yn ffynnu, gan greu llifoedd o’r radd flaenaf sy’n rhagweld galw. Byddwn yn buddsoddi i sicrhau gallu cenedlaethol ar draws pob disgyblaeth ac yn diwallu anghenion hanfodol y gweithlu, gan ddatblygu rhaglenni hirdymor sy’n denu, yn cadw ac yn datblygu doniau, a gan gryfhau’r cydweithio ac entrepreneuriaeth ar draws sectorau. Mae ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhoi mantais strategol i ni, gan wella creadigrwydd, arloesi a chanlyniadau ymchwil ar draws ein holl fuddsoddiadau.

Byddwn yn sbarduno datblygiad y gweithlu a chadernid y system drwy gymhellion yn ein portffolio buddsoddi a thrwy sicrhau bod hyfforddiant doethurol yn dal i fod yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn gynaliadwy. Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, byddwn yn cefnogi 5,000 o ysgoloriaethau doethurol newydd ledled y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Mae denu doniau rhyngwladol yn chwarae rhan ganolog i roi hwb i economi’r Deyrnas Unedig a galluogi twf. Byddwn yn creu amodau sy’n denu doniau byd-eang, yn cefnogi llwybrau mewnfudo a fisâu, ac yn hyrwyddo’r Deyrnas Unedig fel cyrchfan ddibynadwy ar gyfer buddsoddi. Byddwn yn cryfhau’r cydweithio ar draws sectorau a’r llywodraeth er mwyn cefnogi polisïau cydlynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Cymrodoriaethau Arweinyddion y Dyfodol

Mae

76%

o’r cymrodorion a ariennir yn gweithio ar brosiectau sy’n cyd-fynd â’n Rhaglenni Blaenoriaethau

  • Rydym wedi buddsoddi mewn dros
    700
    o Gymrodorion Arweinyddion y Dyfodol er 2018
  • Disgwyliwn gynorthwyo
    1,000
    o Gymrodorion Arweinyddion y Dyfodol erbyn Mawrth 2030

Dosbarthiad Cymrodyr Arweinyddion y Dyfodol ar draws meysydd blaenoriaeth UKRI: gwyddorau bywyd (33%), technolegau a digidol (16%), addasu i’r hinsawdd, yr amgylchedd a gwydnwch (11%), gweithgynhyrchu uwch (10%), gofod (7%), ynni glân (5%), iechyd planhigion ac anifeiliaid a bwyd (4%), diwydiannau sylfaen (3%), technoleg amaeth (2%), diwydiannau creadigol (2%), gwasanaethau proffesiynol, busnes ac ariannol (2%) ac amddiffyn a diogelwch gwladol (1%).

Astudiaeth achos: datblygu gwybodaeth

Llwyddodd Tom Gur i ddatrys problem agored a oedd yn bodoli ers 28 o flynyddoedd drwy greu proflenni yr oedd modd eu gwirio ar sail tebygolrwydd, gan ddatblygu gwyddor cyfrifiadureg ddamcaniaethol a gosod y sylfeini ar gyfer technolegau cryptograffig ymarferol fel bloc-gadwyni.

Astudiaeth achos: gwella bywydau

Datblygodd Laura Salisbury dechnoleg wisgadwy sydd wedi cael patent i helpu goroeswyr strôc i allu symud unwaith eto a chryfhau cyhyrau’r dwylo a’r bysedd. Hyd yma, mae’r cwmni deilliadol KnitRegen wedi denu £1 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf menter i ddod â’r cynhyrchion i’r farchnad, ac enillodd Salisbury Wobr Entrepreneur y Maer am Iechyd yn 2022.

Astudiaeth achos: sbarduno twf

Trodd Siddartha Khastgir ei ymchwil ar ddiogelwch trafnidiaeth awtonomaidd ar draws y maes ffyrdd, y maes hedfan a’r maes morol yn safonau ac yn rheoliadau diogelwch sylfaenol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan helpu i roi sylw i’r pryderon am ddiogelwch sydd wedi bod yn rhwystr rhag masnacheiddio mewn diwydiant a allai dyfu i fod yn werth £50 biliwn erbyn 2035. Mae wedi cydweithio’n agos iawn â’r cwmni deallusrwydd artiffisial arweiniol, Wayve Technologies, ac mae ei gydweithrediad ag Aurrigo, datblygwr cerbydau awtonomaidd yn Coventry, ar brosesau sicrhau diogelwch wedi galluogi’r cwmni i fanteisio ar gyfle gwerth miliynau o bunnoedd yn y farchnad.

Buddsoddi mewn seilwaith ymchwilio

Rydym yn gwneud newidiadau strategol ar draws ein portffolio buddsoddi mewn seilwaith, sy’n cynnwys offer labordy, setiau data, canolfannau cenedlaethol, sefydliadau, Catapyltiau ac unedau, a chyfleusterau byd-eang. Rydym yn buddsoddi mwy a mwy mewn seilwaith ymchwil ddigidol, sy’n chwarae rhan fwyfwy canolog yn y system ymchwilio ac arloesi fodern, ac yn esgor ar fanteision ar draws y system gyfan.

Seilwaith o
1,100
metr o dan y ddaear i
1.5 miliwn
cilomedr o’r Ddaear

Lle bo angen strategol am yr asedau presennol, byddwn yn eu cynnal i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn cefnogi ein gweithgaredd ymchwilio sy’n gystadleuol yn fyd-eang. Bydd seilwaith newydd yn cael ei ariannu gan ddefnyddio prosesau cydlynol a thryloyw, er enghraifft galwadau cystadleuol am gyllid ar gyfer offer drwy’r rhaglen World Class Labs a’r flaenoriaeth ar roddir ar draws UKRI i seilwaith graddfa fawr drwy’r Gronfa Seilwaith. Byddwn yn sicrhau y bydd cyfleusterau rhyngwladol mawr yn esgor ar y budd mwyaf posibl i’r Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod ein cyfranogiad yn rhoi i’r Deyrnas Unedig werth da am arian ac enillion amlwg.

Gwella cadernid a chynaliadwyedd system ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig

O lwybrau doniau i seilwaith hanfodol, byddwn yn edrych yn y tymor hir ar gynaliadwyedd a chydnerthedd ar draws system ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio ein dealltwriaeth i adnabod heriau ar draws y system, gan gynnwys lle mae galluoedd ymchwilio hanfodol mewn perygl, ac i gydlynu atebion ar draws y sector. Drwy gyfrwng ein modelau buddsoddi a’n perthnasoedd strategol, byddwn yn annog ymddygiad cynaliadwy, yn cefnogi ecosystem iach ac yn helpu sefydliadau i arbenigo mewn pynciau a chydweithio. Byddwn hefyd yn sicrhau bod sefydliadau ymchwil y sector cyhoeddus yn gallu cael gafael ar gyllid UKRI lle bo hynny’n briodol, gan gryfhau eu rôl yn y system ymchwilio ac arloesi ehangach.

Bydd ein buddsoddiadau’n rhoi hwb i gadernid hirdymor galluoedd ymchwilio ac arloesi hanfodol y Deyrnas Unedig. Byddwn yn dal i gefnogi sefydliadau ymchwil cenedlaethol sy’n hanfodol i wyddoniaeth graddfa fawr, i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth ac i dwf economaidd. Byddwn yn cysoni ein portffolio o gampysau, canolfannau, sefydliadau, catapyltiau ac unedau ymchwilio ac arloesi gyda’n blaenoriaethau strategol, er mwyn iddynt allu cyflawni’r canlyniadau sydd eu hangen. Fel rhan o hyn, byddwn yn gwella’r drefn lywodraethu ac yn sicrhau bod eu gweithrediadau’n effeithiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy.

Canolfannau, sefydliadau, Catapyltiau ac unedau (CICUs)

Ciplun o fap rhyngweithiol o’r DU yn dangos canolfannau, sefydliadau, catapyltiau ac unedau UKRI.

Rydym yn darparu cyllid craidd strategol i 58 o ganolfannau, sefydliadau, catapyltiau ac unedau i ddarparu galluoedd ymchwilio ac arloesi unigryw a chenedlaethol.

Gweler ein map rhyngweithiol am drosolwg manwl fesul cyngor

Lawrlwytho’r tabl data ar gyfer buddsoddiadau yn y CICUs (XLSX, 52KB)

Ymgysylltu â phwrpas

Mae ymchwilio ac arloesi yn gwella bywydau a bywoliaeth, ond nid yw pawb yn gweld yr effaith gadarnhaol ar eu bywydau eu hunain. Rydym am i bobl a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig chwarae rhan ystyrlon i siapio’r ymchwil. Byddwn yn cefnogi staff UKRI, yn ogystal â’r ymchwilwyr a’r arloeswyr yr ydym yn eu hariannu, i gynnwys y cyhoedd fel bod ymchwil yn cael ei ysgogi gan anghenion y byd go iawn.

Drwy ein rhaglen deialog gyhoeddus Sciencewise a’r arolwg o agweddau’r cyhoedd at wyddoniaeth, byddwn yn dyfnhau ein dealltwriaeth o obeithion, disgwyliadau a phryderon y cyhoedd ynghylch gwaith ymchwilio ac arloesi, gan lywio blaenoriaethau gweithredol UKRI yn ogystal â’i strategaeth hirdymor.

Mae angen i ni allu cyffroi a dal dychymyg pobl ifanc am ymchwilio ac arloesi. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth, yn cryfhau gweithlu ymchwil ac arloesi’r dyfodol, yn ehangu cyfranogiad, a meithrin llythrennedd ac ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth. Gwneir hyn drwy ein rhaglenni cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu ag ieuenctid, gan gynnwys buddsoddiadau mewn amgueddfeydd a gwyliau sy’n ennyn chwilfrydedd, a’r rhaglen Llysgenhadon STEM, sy’n cysylltu gwirfoddolwyr ag ysgolion i ddarparu gweithgareddau cyfoethogi sy’n ategu’r cwricwlwm.

5: Diwygio ein sefydliad

Ein rôl yw sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi i sicrhau canlyniadau i’r Deyrnas Unedig. Er mwyn gwneud hyn yn effeithlon ac yn effeithiol, mae angen i ni ddod yn sefydliad sy’n fwyfwy integredig, ystwyth ac effeithiol.

Y tu mewn i’r sefydliad, byddwn yn symleiddio llawer o’n prosesau a’n penderfyniadau, er enghraifft, yn haneru’r amser a gymerwn i brosesu grantiau erbyn 2031. Bydd defnyddio mwy ar ein systemau TG a data a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol yn helpu i sicrhau arbedion effeithlonrwydd o’r fath.

Bydd y newidiadau a wnawn dros y pum mlynedd nesaf yn sicrhau y gallwn roi i’r cyhoedd yr enillion gorau ar fuddsoddiad.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • yn cefnogi gweithlu cynhwysol sy’n perfformio’n dda drwy drefn lywodraethu clir, drwy drefniadau cadarn i ddatblygu gallu a drwy gyfrwng diwylliant sy’n rhoi blaenoriaeth i les, tegwch a gwelliant parhaus
  • yn sicrhau bod UKRI yn sefydliad effeithlon ac ystwyth, sydd wedi’i sefydlu yn y ffordd orau i gyflawni ein cenhadaeth, gyda’r sgiliau iawn a’r offer iawn, yn y lle iawn ar yr adeg iawn
  • yn lleihau’r amser a gymerir i brosesu grantiau o leiaf 50% erbyn 2031 drwy awtomeiddio ac arbenigedd staff, gyda’r gymuned ymchwilio yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o alluogi’r newid hwn
  • yn arwain sgyrsiau byd-eang ar yr arferion gorau ar gyfer ymchwilio ac arloesi dibynadwy
  • yn meithrin hyder y cyhoedd yng ngwerth ymchwilio ac arloesi
  • yn moderneiddio ein systemau data, yn defnyddio dangosyddion sy’n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial ac yn creu swyddogaeth ymwybyddiaeth sefyllfaol i gryfhau’r broses gwneud penderfyniadau
  • yn aros yn effro i effaith defnyddio offer a thechnolegau digidol ar nifer y ceisiadau, ar ansawdd yr asesu ac ar degwch, gan chwarae rhan flaenllaw i reoli’r newid hwn
  • yn bod yn fwy tryloyw ynghylch ein llif o gyfleoedd cyllido i’r dyfodol, gan roi rhybudd ymlaen llaw sy’n galluogi ymgeiswyr i baratoi a chyflwyno cynigion cryfach

Effaith: Gwneud penderfyniadau’n gyflymach wrth asesu

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2025 dan arweiniad yr Uned Metawyddoniaeth, mae UKRI yn bwriadu defnyddio Adolygiadau Gwasgaredig gan Gyd-ymgeiswyr yn ehangach ar draws y cynghorau ymchwil. O dan y model Adolygiadau Gwasgaredig gan Gyd-ymgeiswyr, mae ymgeiswyr hefyd yn gweithredu fel aseswyr, gan helpu i wneud penderfyniadau ariannu yn fwy democrataidd a darparu adborth sy’n fwy cyson ac o ansawdd uwch. Fe wnaeth defnyddio’r model hwn mewn cynllun peilot arwain at fod penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghynt, gyda’r amser rhwng y dyddiad cyflwyno a’r penderfyniad ariannu yn cael ei gwtogi 53 i 65%.

Cefnogi ein pobl

Mae gweithlu hyblyg, ymroddedig sy’n perfformio’n dda yn hanfodol. Byddwn yn creu diwylliant sy’n rhoi blaenoriaeth i les, cynhwysiant a thegwch. Bydd trefn lywodraethu gadarn, proses gwneud penderfyniadau glir a chyfle cyfartal yn sicrhau bod gan ein staff y gallu a’r capasiti i gyflawni uchelgeisiau UKRI.

Mae gwerthoedd ein sefydliad yn amlinellu’r ymddygiad sy’n angenrheidiol i gyflawni ein cenhadaeth a’n strategaeth a sut rydym yn cefnogi ein gilydd yn ein rolau. Dyma ein gwerthoedd:

  • tanio chwilfrydedd
  • chwarae ein rhan
  • dyrchafu pobl
  • gwneud gwahaniaeth

Nid dim ond disgrifio’r ffordd rydyn ni eisoes yn ymddwyn y maent; yn hytrach maent yn disgrifio’r math o sefydliad rydym yn awyddus i fod.

Byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr drwy gydol eu siwrnai gydag UKRI drwy osod disgwyliadau clir, meithrin ymdeimlad o berthyn, darparu datblygiad parhaus, cydnabod eu llwyddiannau, a denu a gwobrwyo dawn yn dryloyw. I ategu hyn oll, bydd gennym berthynas gadarnhaol â’n gweithwyr, cysylltiad gweithredol ag undebau llafur a rhwydweithiau staff, ac amgylchedd cydweithredol.

Cynyddu’r effeithlonrwydd a’r integreiddio

Yn sgil y newidiadau a wnaed ers ein sefydlu rydym bellach yn gweithredu’n fwy di-dor, gan ddwyn ynghyd ein harbenigedd disgyblaethol a’n rhagoriaeth broffesiynol a gweithredol. Bydd mwy o gysylltiad ar draws y naw cyngor yn helpu’r timau amlddisgyblaethol i weithio ar draws y sefydliad. Bydd y dull gweithredu newydd hwn yn ein helpu i annog buddsoddiadau mewn ymchwil sy’n cael ei ysgogi gan chwilfrydedd ac ymateb i flaenoriaethau strategol cenedlaethol.

Ceir galw cynyddol am weithgaredd ymchwilio ac arloesi i ddatrys problemau cynyddol gymhleth, ac mae mabwysiadu offer cyfrifiannu a data newydd ar draws y system yn cyflymu’r ffordd y caiff gweithgaredd ymchwilio ac arloesi ei gyflawni. Mae’r dirwedd ymchwilio ac arloesi wedi newid yn gyflym ers creu UKRI: mae’n hanfodol ein bod yn paratoi ein hunain er mwyn i ni allu addasu i ragor o newidiadau i’r dyfodol.

Mae UKRI a’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (DBIST) wedi creu’r seilwaith metawyddoniaeth cyntaf yn y byd gyda chefnogaeth y llywodraeth, sy’n golygu ein bod yn gallu cefnogi ymchwil ac arloesi i’r eithaf. Mae arbrofion beiddgar eisoes wedi dangos y gallwn leihau’r amser a gymerir i asesu a gwneud penderfyniadau a gwella canlyniadau’r ymgeiswyr ar yr un pryd. Rydym yn cefnogi’r syniadau hyn ymhellach, gan droi ein sylw at lunwyr polisïau a buddsoddi £11.5 miliwn gyda’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach mewn seilwaith synthesis tystiolaeth sy’n cael ei ysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial.

Rydym yn llunio Model Gweithredu ar gyfer y Dyfodol i UKRI fel sefydliad o’r radd flaenaf sy’n cyflawni ei genhadaeth mewn ffordd unedig. UKRI sydd wedi’i adeiladu ar dri philer sydd, gyda’i gilydd, yn cyflawni blaenoriaethau cymdeithasol:

  • cynghorau fel y peiriannau cyflawni a’r adeiladwyr partneriaethau er mwyn gweithgaredd ymchwilio ac arloesi o’r radd flaenaf
  • rhaglenni sy’n ategu dull blaenoriaethu strategol
  • proffesiynau sy’n galluogi arbenigwyr medrus a thimau swyddogaethol i greu eglurder, cysondeb a chyflymder

Drwy symleiddio gweithrediadau mewnol gallwn gynyddu ein buddsoddiadau mewn ymchwil rheng flaen. Byddwn yn ei gwneud yn haws i ymchwilwyr fynd ar drywydd eu huchelgeisiau drwy gwtogi’n aruthrol yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau a mabwysiadu dull cydweithredol o fuddsoddi. Byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o gamau adolygu i ddeall ai drwy gefnogaeth barhaus yw’r ffordd orau o ddefnyddio arian cyhoeddus o hyd.

Gwella amseroedd prosesu grantiau

Mae gormod o ymdrech ein hymchwilwyr a’n hentrepreneuriaid gwych yn cael ei dreulio yn ysgrifennu ac yn asesu nifer gynyddol o geisiadau, pan ddylent fod yn canolbwyntio’u hymdrech ar gael canlyniadau ac effaith.

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid strategol i sicrhau bod UKRI yn lleihau’r gyfran o’n hadnoddau a ddefnyddir i asesu grantiau o flwyddyn i flwyddyn. Erbyn 2026 i 2027, drwy gyfrwng ein llwyfan cyllido ac amgylchedd polisi a phrosesu symlach, byddwn yn lleihau’r amseroedd canolrifol rhwng ymgeisio a gwneud penderfyniad gyda cheisiadau a gyflwynir drwy’r Gwasanaeth Cyllido.

16,000
geisiadau i law bob blwyddyn

  • 195 diwrnod
    yw’r amser prosesu canolrifol ar gyfer y modd ymgeiswyr (2025-26)
  • 127 diwrnod
    yw’r amser prosesu canolrifol ar gyfer y modd wedi dargedu (2025-26)
  • Targed o 90 diwrnod
    ar gyfer y modd ymgeiswyr erbyn 2030-31
  • Targed o 60 diwrnod
    ar gyfer y modd wedi’i dargedu erbyn 2030-31

Byddwn yn rheoli’r galw lle bo angen gwneud hynny fwyaf, ac yn defnyddio lefelau priodol o fonitro gweithredol ar ôl dyfarnu. Bydd hyn yn gofyn am weithio’n agos gyda’r gymuned ymchwil, a bydd ei chyfranogiad hi yn hanfodol i symleiddio’r gofynion a galluogi’r newid hwn.

Bydd ein Huned Metawyddoniaeth sy’n arwain ar lefel fyd-eang yn cynnal arbrofion beiddgar a ysgogir gan ddata, gan gynnwys dulliau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, er mwyn gwella cyflymder ac ansawdd ein penderfyniadau ymhellach. Byddwn hefyd yn edrych ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wella effeithlonrwydd mewn prosesau ar draws cylch oes y cyllid ac fel adnodd gweithredol. Rydym eisoes yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddadansoddi adborth gan ddefnyddwyr y Gwasanaeth Cyllido ac yn brysbennu’r gwelliannau sydd angen eu gwneud i’r system, a byddwn yn adeiladu ar y gallu hwn. Byddwn bob amser yn defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol, yn unol â fframweithiau rheoleiddio’r Deyrnas Unedig a fframweithiau rheoleiddio rhyngwladol, ac o dan oruchwyliaeth ddynol briodol.

Ymgorffori ymchwil dibynadwy a diogel

Byddwn yn darparu arweinyddiaeth weladwy i waith ymchwilio ac arloesi dibynadwy, gan arwain sgyrsiau byd-eang a gweithio gyda phartneriaid yn y llywodraeth a’r sector i ymgorffori’r arferion gorau a chefnogi ymddiriedaeth. Bydd gofyn inni felly fynd ati i gydweithio â’r gymuned, y mae ei hymgysylltiad yn hanfodol i siapio, mabwysiadu a hyrwyddo dulliau cyfrifol. Byddwn yn parhau i ddatblygu diwylliant o ddiogelwch cyfrifol ar draws system ymchwilio ac arloesi’r Deyrnas Unedig, ar gyfer gweithgareddau mewnol a thrwy ein buddsoddiadau. Bydd staff yn cael cyfle i wella eu sgiliau i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i wneud ymchwil sy’n ddiogel, yn foesegol ac yn gystadleuol yn fyd-eang.

Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ymchwilio ac arloesi

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gwella ymwybyddiaeth o fanteision ymchwilio ac arloesi a ariennir yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n golygu bod yn dryloyw ynghylch sut rydym yn gweithredu, sut mae penderfyniadau cyllido’n cael eu gwneud a sut mae’r penderfyniadau hynny’n effeithio ar fywydau. Drwy ddefnyddio ein harbenigedd ymgysylltu a chyfathrebu a throi tystiolaeth o’n heffaith yn ymgysylltu ystyriol a hygyrch, byddwn yn creu cyfleoedd i bobl ddeall yr hyn rydym yn buddsoddi ynddo a gweld sut mae ymchwilio ac arloesi yn gwella eu bywydau bob dydd, gan ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd yn UKRI.

Casglu’r mwyaf posibl o wybodaeth oddi wrth systemau a data

Bydd datblygu ein systemau TG a data yn helpu i integreiddio UKRI yn ehangach ac yn sicrhau ein bod yn cael y mwyaf posibl o wybodaeth oddi wrth ein platfformau data. Byddwn yn cryfhau ein fframwaith rheoli perfformiad, gan gyflwyno Canlyniadau Allweddol blynyddol a disodli’r naw Cynllun Cyflawni Strategol unigol gydag un Cynllun Cyflenwi integredig.

Bydd dangosyddion rhagoriaeth ymchwil newydd, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hysgogi gan ddeallusrwydd artiffisial, yn cryfhau ein dull o fesur effaith ac o wneud penderfyniadau. Bydd creu swyddogaeth ymwybyddiaeth sefyllfaol newydd yn gwella ein dull o ddadansoddi a sganio’r gorwel, gan ein helpu i wneud y canlynol:

  • buddsoddi mewn technolegau newydd
  • canfod meysydd lle mae gan y Deyrnas Unedig fantais
  • datblygu’r sgiliau i hybu cynhyrchiant a chystadleurwydd y Deyrnas Unedig

Optimeiddio ein hystâd, ein systemau a’n seilwaith digidol

Bydd ein hystâd fawr ac amrywiol yn cael ei rheoli i sicrhau ei bod yn cefnogi ein cenhadaeth hirdymor, ei bod yn gynaliadwy yn ariannol ac yn diwallu anghenion newidiol ein pobl. Fel rhan o hyn, byddwn yn ehangu ein hôl troed rhanbarthol, er mwyn i ni gael gwell cysylltiad ag ymchwilio ac arloesi sy’n digwydd yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau amgylcheddol a nodir yn ein strategaeth cynaliadwyedd amgylcheddol bum mlynedd a byddwn yn dal i fuddsoddi yn y seilwaith a’r systemau digidol sydd eu hangen ar gyfer sefydliad modern sy’n cael ei yrru gan ddata. Byddwn hefyd yn glynu wrth ein hymrwymiadau i gyfrifoldeb cymdeithasol o dan y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol drwy weithredu Siarter Caffael Cyfrifol UKRI a’i offeryn Effaith Caffael Cyfrifol cysylltiedig. Gyda’i gilydd, bydd y camau hyn yn sicrhau bod ein gweithrediadau, ein buddsoddiadau a’n partneriaethau yn esgor ar werth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor.

Y pum mlynedd nesaf

Yn 2026, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • dechrau 15 Rhaglen Blaenoriaethau
  • lansio cam 2 y Gronfa Partneriaeth Arloesi Lleol
  • cwblhau cyfleuster Biofanc newydd yn y Deyrnas Unedig
  • sefydlu fframwaith eiddo deallusol newydd
  • sefydlu Velocity (dull ‘gofalwr’ newydd ar gyfer busnesau)
  • symleiddio mynediad at gyllid a arweinir gan ymgeiswyr

Yn 2027, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • pedwar adnodd cyfrifiannu cenedlaethol newydd yn weithredol
  • cyfnod gwneud cyflwyniadau i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar agor
  • Adolygiad o Gyllid Arloesi Addysg Uwch
  • Gwobrau CreaTech Futures yn dechrau

Yn 2028, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • prosiectau Cam Pump y Gronfa Seilwaith yn dechrau
  • rhaglen ddiwygio UKRI yn cael ei chwblhau
  • cyrraedd y targed interim ar gyfer lleihau’r amseroedd prosesu grantiau
  • y gwasanaeth uwchgyfrifiadura cenedlaethol nesaf yn weithredol
  • y cyfleuster cryogenig cenedlaethol yn weithredol

Yn 2029, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • cyhoeddi canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
  • heriau’r MAP Ymchwilio a Datblygu wedi’u cwblhau
  • dros 1,000 o Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol wedi’u dyfarnu

Yn 2030, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • y gwaith o ddiwygio fformiwla ariannu ymchwil Research England wedi’i gwblhau
  • Prosiect Diamond-II wedi’i gwblhau
  • Gostyngiad o 50% yn allyriadau tŷ gwydr UKRI o’i gymharu â llinell sylfaen y flwyddyn 2017 i 2018
  • Goleuni cyntaf gwyddonol y Telesgop Enfawr

Yn 2031, rydym yn disgwyl gweld y canlynol:

  • cyrraedd y targed terfynol ar gyfer lleihau’r amseroedd prosesu grantiau
  • cwblhau dau gam cyntaf yr astudiaeth hydredol Generation New Era
  • nodau cynaliadwyedd amgylcheddol newydd ar gyfer 2031 i 2035

Cyfeiriadau

Rhagair

Mae’r gweithgarwch sylfaenol yn nod 4 (cryfhau sylfeini ymchwilio ac arloesi) yn sail gymesur i nodau 1 i 3. Os caiff y gweithgaredd hwn ei gynnwys, tua 50% yw cyfran ein cyllideb ar gyfer ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd.

1: Cefnogi ymchwil darganfod ac ymchwil a ysgogir gan chwilfrydedd

Cynnal hyblygrwydd drwy gyllid grant bloc

Mae Cyngor Cyllido’r Alban, Medr, ac Adran yr Economi yn gyfrifol am weinyddu’r hyn sy’n cyfateb i ymchwil sy’n gysylltiedig ag ansawdd ar draws yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn y drefn honno. Research England sy’n cyflawni asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar ran y partneriaid hyn.

Mae cyrff cyllido’r Deyrnas Unedig yn defnyddio canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i lywio elfennau o’u dyraniad cyllid ymchwil i brifysgolion. Mae pob corff cyllido addysg uwch yn dyrannu ei gyfran o’r gyllideb yn unol â’i flaenoriaethau a’i bolisïau ymchwil cenedlaethol ei hun. Gweler Explainer: QR funding and the REF (Ionawr 2023).

2: Rhoi sylw i flaenoriaethau strategol y llywodraeth a’r gymdeithas

Technolegau Cysylltedd Uwch (ACT), Deallusrwydd Artiffisial (AI), Seiberddiogelwch, Bioleg Peirianneg, Technolegau Cwantwm, a Lled-ddargludyddion yw’r technolegau blaengar.

Buddsoddi yn ein Rhaglenni Blaenoriaethau newydd

Mae ein buddsoddiad yn cael ei egluro’n fanylach yn y dyraniadau o’r Gyllideb ar gyfer UKRI. Rydym yn rheoli ein cyllidebau’n ddeinamig fel portffolio i ymateb i gyfleoedd newydd a’u cofnodi, ac fel rhan o’n rheolaeth ariannol arferol, fel gwneud gwaith ailbroffilio angenrheidiol ar gyllidebau i sicrhau eu bod yn dal i gyflawni’n effeithlon. O ganlyniad, gall ffigurau dyrannu newid yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu’r addasiadau hyn, ac efallai na fydd cyllidebau gweithredol yn cyfateb yn union i’r ffigurau diwedd blwyddyn terfynol.

Amddiffyn a diogelwch y wlad (£550 miliwn)

Yn 2024-25, gwariodd y Weinyddiaeth Amddiffyn £3.1 biliwn ar ymchwilio ac arloesi; mae hwn yn gynnydd mewn termau real o 12% ar y flwyddyn flaenorol. Gweler adnoddau adrannol y Weinyddiaeth Amddiffyn (Ionawr 2025)

4: Cryfhau sylfeini’r system ymchwilio ac arloesi

Adeiladu’r gweithlu, y diwylliant a’r amodau ar gyfer rhagoriaeth ymchwilio ac arloesi

Doniau: mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddata arolwg o gwmnïau 2024 a gasglwyd ar draws ein saith campws ymchwilio ac arloesi:

  • ArloesiAber
  • Campws Ymchwil Babraham
  • Labordy Daresbury
  • Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi Harwell
  • Parc Ymchwil Norwich
  • Canolfan Arloesi Roslin
  • Rothamsted Enterprises

Page viewed: 1:21 am on 17 August 2026

This is the website for UKRI: our seven research councils, Research England and Innovate UK. Let us know if you have feedback or would like to help improve our online products and services.